Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

adeiladodd

adeiladodd

Mewn soned arall, 'Y Rhufeiniaid' (Synfyfyrio), mae ef yn ceryddu'r gwŷr a adeiladodd yr Ymerodraeth Rufeinig, nid am fod yn ormweswyr creulon a diystyrllyd o hawliau pobloedd eraill, ond am fethu â sylweddoli na fyddai eu gweithiau hwy yn parhau yn dragwyddol.

Ar y pryd yma adeiladodd fy rhieni ystafell, a chegin iddi, drws nesaf i ni.

Aberhonddu oedd prif ganolfan yr arglwyddiaeth Normanaidd ac adeiladodd y Normaniaid gastell cryf yno.

Chwys wyneb a llafur breichiau, a mêr esgyrn y nigger druan adeiladodd eich muriau, a weithiodd eich ystafelloedd, ac a osododd i fyny eich pinaclau; a'u dodrefnodd â dodrefn dymunol o goed y Walnut a'r Rosewood, y Curly Maple, y dderwen, a'r Spanish Mahogany.

Adeiladodd y carcharorion rhyfel lwybr o'r tŷ i'r chwarel y 'German road' a byddent yn gweithio yn chwarel Graiglwyd gan falu cerrig ar y mynydd, a gwylwyr yn eu martsio'n ôl a blaen.

Yn ystod ei gyfnod yn Nhyddewi, adeiladodd Bec ddau fynachdy yn ogystal â sefydlu Eglwys Golegol Llanddewi Brefi a hefyd un arall yn Llangadog.

Adeiladodd Clough Williams-Ellis bentref Portmeirion o 1925 i 1975 ar ei benrhyn preifat ar arfordir Eryri.

Dywedodd Iesu, "Pob un felly sy'n gwrando ar y geiriau hyn o'r eiddof ac yn eu gwneud, fe'i cyffelybir i ddyn call a adeiladodd ei dŷ ar y graig.' Onid ei eiriau ef yw'r graig gadarnaf y medrwn ni seilio'n bywyd arni?