Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

adeiladydd

adeiladydd

Roedd Dik Siw wedi cael ambell ffafr gan Ynot Benn, oblegid adeiladydd a chontractor ydoedd Dik.

Priod y diweddar Richard Williams, adeiladydd a threfnwr angladdau yn Nhrefriw am rai blynyddoedd.

Y mae'r Athro Glanmor Williams yn cytuno â'r farn a fynegodd y diweddar R. T. Jenkins yn y Bywgraffiadur am de Gower, "Ei haelioni a'i ysblander fel adeiladydd yw ei glod pennaf", ond y mae am ychwanegu fod Gower, yn ogystal â bod yn wr dysgedig, yn esgob cydwybodol.

Ym Mabinogi Manawydan mae crefftwyr eiddigeddus yn bwriadu lladd Manawydan a Phryderi ac yn y Vita Cadoci fe geir hanes adeiladydd o Wyddel y rhagorai ei waith ar waith y crefftwyr eraill a gyflogid gan Gadog gymaint nes iddynt ei ladd.

Aeth hwn i ffwrdd i'r De am dipyn, a hefyd cyn dychwelyd yn ôl i'w hen ardal bu am gyfnod yng ngwasanaeth Cyngor tref Aberystwyth yn cynorthwyo fel adeiladydd.

Byddai adeiladydd, er enghraifft, yn ei chael hi'n fanteisiol i agor cyfrif arbennig ar gyfer pob contract y mae'n ymgymryd ag ef, er mwyn iddo fedru dweud pa elw neu golled a wna arno.

Gwaith arbennig yr adeiladydd llongau,Donald McKay, ac athrylith y cynllunydd, John Griffith, a greodd y cliperi cyflym gyda'u llinellau hyfryd a'u mastiau uchel yn llawn hwyliau, llongau megis y Lightning a'r Flying Cloud ac yn y bennod nesaf ceir ychydig o drafodaeth am y cysylltiad Cymreig a'r llongau enwog hyn.