Neidiodd o'i groen bron pan ehedodd aderyn yn swnllyd o'r goeden wrth y wal a chwarddodd yn uchel wrth ei weld ei hunan yn gymaint o fabi.
Edrych, dyma aderyn bach yn ei gwb...
Mae'r Aderyn Du a'r Fronfraith yn bwyta'r aeron.
Tynnwch lun ffenestr liw eich hun sy'n dangos eich hoff aderyn.
Pam felly y cafodd pentref cyfan enw un aderyn?
A oedd yr aderyn ar ei ben ei hun?
Mae Cura yn ymateb gyda rhyw ffraethineb i grawc aderyn sy'n tarfu ar gychwyn un o'i ganeuon.
'Ers i ni ddod yma, mi rydw i'n sylwi mwyfwy ar bethau fel cân rhyw aderyn ne'i gilydd, er na fydd gen i syniad be ydy o.
'Aderyn ...' clywais hwy'n sibrwd, '...aderyn brith, aderyn corff, aderyn pêl, aderyn y ddrycin, aderyn yr eira ...' Yr oedd y rhestr yn ddiddiwedd.
Heb arboeni am 'gywirdeb' a 'heresi' yr athrawiaethau mewn dialog (neu, yn achos Llyfr y Tri Aderyn, trialog) a llythyr a cherdd, y mae'n gymaint haws astudio nid yn unig yr hyn a ddywedir ond hefyd yr awen honno a gais yr hyn sydd y tu cefn a'r tu hwnt i'r cyfryw athrawiaethau, gan adnabod a gwerthfawrogi eto ac eto ac eto ymdrech y dychymyg dynol i herio ein maith maith anwybod.
Digwydd enwau anifeiliaid ac adar pur gyffredin mewn enwau hen dafarnau yng Nghymru ac y mae'n debyg fod arwydd yn dangos llun yr anifail neu'r aderyn yn crogi y tu allan i'r dafarn gynt.
Mae'r Llinos Werdd ac Aderyn y Tô yn eu bwyta.
Felly mae'r Aderyn Du, y Robin Goch a'r Drudwy yn bwydo ar y ddaear.
Mae'r awydd i fridio ac i fudo hefyd yn gysylltiedig â newidiadau cemegol yng nghorff yr aderyn.
'A ta waeth, aderyn yw boda dinwen,' ategodd Mini, 'nid madarch o unrhyw fath.'
Wrth blannu, mae'r patrwm troed aderyn yn un da i'w ddilyn er mwyn i'r planhigion gael digon o oleuni gan na fyddant yn tyfu yng nghysgod ei gilydd.
Yn y dosbarth hwn mae'r oedolion a'u hepil yn barasitig, gan amlaf ar naill ai aderyn neu famolyn.
Ac am y bedwaredd ganrif ar bymtheg, wel, meddyliwch am Mari Lewis yn ceisio byw gydag ef: o'i gymharu â'i dri aderyn ef yr oedd darllen Pererin Bunyan fel ymdopi â'r ABC.
Cymharwch eu maint â maint aderyn rydych chi'n ei adnabod, e.e., aderyn y tô.
Gwledda yw bwriad yr aderyn, ond gwasgaru hadau yn y modd rhataf posibl yw amcan y goeden.
Cyhoeddodd dri llyfr - y Llythur ir Cymru Cariadus, Gwaedd ynghymru yn wyneb pob cydwybod a Llyfr y Tri Aderyn (a defnyddio ei deitl poblogaidd), - a thrwyddynt arllwys ar wlad fach, na chawsai syniad gwreiddiol er pan genhedlodd John Penry, genlli o feddyliau dierth, a'r rhai hynny wedi eu cyflwyno mewn dull ac ieithwedd a oedd yn syfrdanol o newydd.
Coeden weddol fechan yw hon ond gwna iawn am ei diffyg maint trwy fod yn llawn o aeron cochion yn yr hydref - arlwy hyfryd i'r Aderyn Du, y Drudwy, Coch y Berllan a'r Fronfraith.
Gwn fod peth anhawster yn codi oherwydd fod Llyfr y Tri Aderyn yn defnyddio tri math o deip ac na ellir atgynhyrchu'r rheini ar deipiadur.
Ymgais yw'r gair i ddynwared y sŵn a wna'r adar hyn ac ystyr bwncath yw 'aderyn sy'n gwneud sŵn fel cath'.
Mae hefyd yn cynnig safleoedd nythu i'r Aderyn Du, y Gwybedog Brith a'r Fronfraith.
Mae'r lechen yn cynrychioli'r tô ac felly yn arwydd o'r cartrefi yr ydym yn eu darparu, tra bod yr eryr (sy'n amlwg yn siap y lythyren 'E' am Eryri) yn aderyn a hed yn uchel ac mae hyn eto'n arwydd o safon uchel gwaith y Gymdeithas.
Ond trawyd y byd hwnnw gan 'ddewin,' a mwyach aeth yr aderyn yn aderyn nos: 'Aderyn crwydr, unig gri,/A di-solas, di-sylwi.'
Oddi allan gellid clywed llef y bleiddiaid yn chwilio am ysglyfaeth yn yr eira a dôi sŵn ambell aderyn nos o gyfeiriad Llyn Llydaw a phegwn yr Wyddfa.
I gael cydbwysedd yn y bennod ar Feibl Morgan Llwyd, byddai angen ystyried y cyfeiriadau Beiblaidd eraill sydd ar ymyl y ddalen yn Llyfr y Tri Aderyn.
(Myfyrdod ar y gwcw lwydlas neu'r aderyn prengoch glas (o wyn elltydd Dover draw), neu'r hudol Dr Red(efallai)waed o Gaint - o waldiwch fy mhen hefo potel sôs coch (neu salad crîm), yr wyf ar ganol hynllef gyda'r waethaf...
Aderyn y gweundiroedd agored ydyw, gyda'r iâr yn dodwy rhwng tri a saith žy glaswyn mewn nyth llac ei adeiladwaith, ynghanol y grun.
Ar un ochr, tynnwch lun o gawell aderyn, a llun caneri ar y llall.
Wrth syllu ar ei phlu yn disgleirio yng ngoleuni'r haul, ymddangosai'n wahanol i bob aderyn a welswn erioed:
Mae'n bosibl mai bwncath oedd ffurf wreiddiol yr enw a mai'r un bwn a geir yma ag yn aderyn y bwn 'bittern'.
Gwyddai eu bod ar ddyfod wrth y cryd oer a âi drosto, ac wedi eu dyfod collai bob nerth a syllai arnynt â'i lygaid, fel aderyn wedi ei lygad-dynnu gan drem y sarff.
Aeth y sibrwd yn ei flaen, '...brân Gernyw, brân lwyd, brith yr oged, boda dinwen...' Gair od i ddisgrifio aderyn!
Ceisiwch wneud astudiaeth fanwl o adar arbennig megis aderyn y tô a'r drudwy.
Ceisiwch wneud byrddau adar a llestri i ddal bwyd a dŵr i'r adar a chofnodwch y nifer a'r rhywogaethau sy'n ymweld â'r safle, gan nodi yn ogystal y - Dyddiad - Amser - Tywydd - Beth wnaeth yr aderyn ei fwyta?
Mae gwaith ymchwil arall yn tueddu i brofi bod gan aderyn allu ychwnaegol i ddarganfod y ffordd, a'i fod yn gallu defnyddio maes magnetig y ddaear.
Nid oedd y byd confensiynol yn barod eto i wrando ar lais yr aderyn hwn, a ddieithrwyd gan brosesau hanes.
Uwchben y côr mae aderyn yn canu nerth esgyrn ei ben yn uchel ym mrigau coeden.
Beth wnaeth yr aderyn?
Mae Cura yn cyfnewid geiriau gydag aderyn crawclyd arall a hynny, rywsut, yn cael pethau i gychwyn eto mewn ysbryd eithriadol o dda ymhlith cantorion sydd wedi sefyll yn hir ar lwyfan.
Er mwyn diogelu dyfodol y Boda Tinwen fel aderyn magu ung Nghymru, mae'n bwysig iawn bod gwaith y Gymdiethas er Gwarchod Adar yn parhau, fel y gellir darganfod anghenion ehangach yr aderyn gwych yma, a gweithredu er mwyn cynyddu'r llwyddiant mewn magu.
Cafodd hwnnw ei gadw dan glo, yng nghist galed y pericarp fel y cai ei basio yn gyfan drwy berfedd yr aderyn a'i fwrw i'r pridd yn rhywle arall.
'Whâ!' meddai hi, 'gafael ynof i!' ac yn lle disgyn fel carreg, cymerais ei llaw ac roeddem fel dau aderyn.
Y peth sy'n drawiadol am Lyfr y Tri Aderyn yw absenoldeb delweddau'r Bumed Frenhiniaeth.
Enw Cymraeg yr aderyn 'buzzard' - aderyn ysglyfaethus sy'n ehedeg yn afrosgo - yw boncath.
Gwennol Ddu Aderyn Du Pioden Aderyn y Tô Titw Tomos Las Ehedydd Dryw Sigl-i-gwt Telor y Cnau
Os ydych chi fel aelod o'r Gymdiethas Frenhinol er Gwarchod Adar yn teimlo'n gryf am yr argymhelliad hwn,rydym yn eich gwahodd i gysylltu â: 'Darnio'r CGN', Bryn Aderyn, The Bank, Y Drenewydd, Powys.