Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

adfeilion

adfeilion

Mae ein hiaith mewn enbydrwydd, ein tir o dan warchae gan estroniaid, ein diwydiannau'n adfeilion a'n plant ar wasgar ym mhedwar ban y byd.

Cwestiwn sylfaenol yn 'Adfeilion' yw: pwy yw'r adroddwr, neu'r sylwedydd?

Rhyw hanner milltir y tu hwnt i derfyn y coed mae adfeilion dwy luest (hafod), y naill, Nantygorlan, ar yr ochr dde a'r llall, Aberceinciau, ar yr ochr chwith i'r afon.

Ennill anfarwoldeb Rhyfeddod mwyaf Cambodia inni oedd adfeilion teyrnas Angkor.

(Pe bai rhywun yn cymryd y fforch dde byddai honno'n mynd heibio i adfeilion hen dollborth Tyrpeg Elan ac ymhellach draw Tyrpeg Neli nad oes carreg ohono ar ôl erbyn hyn.

Mae hen ganolfan seryddol ganol-oesol ddiddorol iawn wedi ei harbed yng nghanol y ddinas, a'r adfeilion wedi eu cofnodi'n fanwl a pharc digon teidi o'u cwmpas.

Gwell gen i oedi wrth adfeilion yr eglwys islaw'r groes, Llanddwynwen.

Yr oedd yr hen ffurfiau yn anghymwys ar gyfer dweud yr hyn a ddymunai, yr union brofiad a ysgogodd barodi Williams Parry ar 'Yr Haf.' Ond erbyn y bryddest 'Adfeilion' trodd y dull parodiol yn arf gynnil.

Buom yn aros yn Siem Reap, y pentref nesaf at yr adfeilion hyn er mwyn inni gael dau ddiwrnod i fynd i weld y deyrnas ryfeddol.

Ai am eu gorchestion peirianyddol y derbyniwn heddiw nad ydyw trenau'n tarfu fawr mwy ar naws yr ucheldir nag adfeilion hen gestyll?

Cerddodd ymlaen i ddatgelu adfeilion pellach o demlau, plasau, colofnau uchel wedi'u cerfio'n gain, baddondai a neuaddau.

O ddilyn yr hen ffordd ymlaen o Fwlch y Clawdd Du ac ar i waered am Ryd yr Hengae ar afon Claerwen bydd adfeilion hen dy yr Hengae i'w gweld yr ochr draw i'r afon.

Mae hwn hefyd, gwaetha'r moddwedi mynd yn adfeilion.

Wedi iddynt glirio'r fforestydd daeth adfeilion teyrnas gyfan i'r golwg yn llawn o demlau a phlasau; erbyn inni gyrraedd Cambodia yr oedd yn bosibl inni weld ymysg yr adfeilion rai o olygfeydd rhyfeddaf y byd.

Adfeilion Sycharth, Powys, o'r awyr

Rhaid gosod 'Adfeilion' hefyd yng nghyd-destun cyfrol gyntaf barddoniaeth T.

Derbyniwyd grant gan y Swyddfa Gymreig i brynu safle yn y pentref a oedd yn cynnwys hen siop a chasgliad o dai oedd bellach yn adfeilion.

Darlunia Alun Llywelyn-Williams, yn Crwydro Brycheiniog, sut y byddai'r gyrroedd yn cyfarfod yn Llanddulas yn Nhirabad cyn dringo Mynydd Epynt, 'a hyd heddiw gellir dilyn eu trywydd, nid yn unig ar y ffyrdd glas, ond hefyd wrth enwau'r tafamdai, rai ohonynt yn ddim ond adfeilion mwy, a ddisychedai'r gwyr da, os nad eu hanifeiliaid hefyd, ar y daith, - Tafarnymynydd, ryw dair milltir o Landdulas, Tynymynydd neu'r Drovers' Arms ...