Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

adfer

adfer

Beth bynnag, mae Blair yn gwybod y gall ef adfer ei boblogrwydd trwy foddir tabloids yn fuan iawn â lluniau neis, cwtsi-cwtsi-cw, ohono fo a Cherie ar Babi Blair newydd.

Felly, meddai, rhaid adfer democratiaeth leol.

Nid dim llai na chwyldroad yw adfer yr iaith Gymraeg yng Nghymru heddiw.

Ein dadl sylfaenol yw fod angen gweld ysgolion bychain yn asedau cadarnhaol yn y broses o adfer cymunedau pentrefol yn hytrach nag fel problemau.

Mae llawer o fudd mewn datblygu lloches newydd gyda chymdeithas tai, boed yn fater o adfer hen adeilad neu adeiladau o'r newydd.

Naill ai ein bod o ddifri ynghylch adfer y Gymraeg yn brif iaith Sir Gaerfyrddin neu ein bod yn gwastraffu arian yn y byd addysg.

Mae Antur Waunfawr wedi sefydlu eu hunain fel cwmni arloesol sydd nid yn unig yn hyfforddi ac intigreiddio pobl gyda anhawsterau dysgu, ond hefyd yn chwarae rhan allweddol i ysgogi y gymuned leol i adfywio'r gymuned ac adfer eu hamgylchedd yn unol â gofynion Agenda 21.

Mae'r adenydd rheiddiol a'r cysylltiadau nexin yn troi'r llithro hwn yn symudiadau plygu ar ran y siliwm wrth iddo gyflawni'r gylchred o drawiad effaith a thrawiad adfer.

Fel yn bennaf oll y cadwasom yr ystyr a llafurio bob amser i'w adfer yn gwbl gywir, felly yr ydym â'r parch mwyaf wedi cadw priod ddull y geiriau yn gymaint ag i'r Apostolion wrth lefaru wrth y Cenhedloedd ac ysgrifennu atynt yn yr iaith Roeg eu cyfyngu eu hunain i ymadrodd bywiog yr Hebraeg yn hytrach na mentro ymhell trwy ystwytho eu hiaith i lefaru fel y llefarai'r Cenhedloedd.

safbwynt cynnal ac adfer y Gymraeg - boed trwy gyfrwng ysgolion dwyieithog penodedig neu dradoddiadol - mae eu cyfraniad yn allweddol.

Polisi'r llywodraeth, fodd bynnag, oedd symud pobl o'r Vedado i dai gwell er mwyn adfer yr ardal hanesyddol hon ar gyfer twristiaid.

Mae ceir wedi'u gwahardd o'r canol erbyn hyn gan adfer rhywfaint o awyrgylch canol oesol y dre farchnad - cyn teyrnasiad y brenin glo a dyfodiad diwydiannau alcam, olew a dur i waelod Cwm Nedd.

Onid oedd llawer o Babyddion dirgel, na wyddai neb yn iawn beth oedd eu nifer, yn barod i groesawu cyfle i adfer yr hen Ffydd?

Y tro hwn bydd yr ymgyrch yn ymwneud ag adfer amgylchfyd y blaned yn ogystal â heddwch.

Ond ar yr un pryd, er mwyn i'r iawn fod yn effeithiol er adfer y berthynas â Duw, 'roedd rhaid i Dduw yntau fod â rhan yr un mor ganolog yn y broses.

Ers wythnos roedd Therosina wedi gorchymyn ei milwyr i fynd i mewn i wlad y Madriaid i adfer trefn yno _ meddai hi.

Ni hawliai Iesu, y mae'n ddiogel gennyf, unrhyw swydd neu deitl o urddas gwleidyddol neu eschatolegol iddo ei hun, ond y mae'n sicr fod llawer yn ei oes yn meddwl amdano fel un a gyflawnai'r addewid am y Meseia, fel un a fyddai'n rhyddhau ac adfer Israel.

Fodd bynnag, un o'r rhwystrau pennaf sy'n atal datblygiad addysg Gymraeg ac sy'n arafu adfer yr iaith yw diffyg cymhelliant ac ewyllys.

Arweiniodd ei ddarlith ar unwaith at sefydlu'r Gynghrair Gaeleg i adfer y Wyddeleg, a bu hynny'n drobwynt.

Ffurfio'r mudiad 'Adfer'.

Ac yn bwysicach byth, gwastraffu cyfle euraid a hanfodol yn yr ymgyrch i adfer yr iaith.

Yn wir, rhaid adfer yr agwedd ymofyngar yn gyson os ydym am feithrin gonestrwydd academaidd.

Esbonio beth yw arwyddocâd hynny ar gyfer cwrs teledu, cwricwlwm cenedlaethol, gwaith yn y dosbarth, neu'n gryno ddigwafers - ar gyfer adfer yr iaith Gymraeg o gwbl.

Mudiad adfer iaith ydym, a chyfathrebu yw'r nôd, a hynny mewn grwpiau bach lle mae modd ennill hyder.

Yn ail, o ganlyniad ni bu chwaith unrhyw gais politicaidd hyd at yr ugeinfed ganrif i adfer statws yr iaith Gymraeg na chael ei chydnabod mewn unrhyw fodd yn iaith swyddogol na gweinyddol.

Y mae ail- adeiladu seiliau cymdeithas yn dasg anodd, y mae adfer iaith sydd yn llithro o'n gafael yn dasg anos fyth.

Er i Ieuan Griffiths weithio'n galed iawn i ddinistrio gyrfa Stan, llwyddodd Stan i adfer ei hunan barch.

Ffurfio'r mudiad 'Adfer'. Methodistiaid yn caniatâu i ferched fod yn weinidogion.

O drefnu taith yn ofalus ac amseru pethau'n berffaith, fe fyddai modd cael `gorau deufyd' - lluniau rhesi di-ddiwedd o feddau, o dorwyr beddau wrthi'n claddu'r meirw, o blant a'u rhieni'n gorweddian rhwng byw a marw, a'r lluniau cynta' o wynebau gwynion yn cyrraedd gyda'r lori%au i adfer gobaith.

Cafodd y tir ble'r oedd yr asbestos wedi ei adael ei adfer i ffurfio Parc Arfordir y Mileniwm.

Yr oeddynt, fodd bynnag, ymhell o fod yn llwm eu byd, fel y dengys eu cartref helaeth sydd bellach wedi'i adfer gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol i fod yn rhywbeth tebyg i'r hyn ydoedd yn yr unfed ganrif ar bymtheg - proses sydd, gyda llaw, wedi profi fod y ty presennol, yn wir, yn fangre geni a magwraeth William Morgan, (yr oedd amheuaeth o'r blaen a allai fod yn ddigon cynnar).

Yn y pumdegau, roedd Cuba'n chwilio am ddyn a allai adfer eu balchder cenedlaethol drwy herio'r Unol Daleithiau, dyn na fyddai'n cael ei lygru gan arian y Mafia.

Mae gan Blair amser eto i adfer ei boblogrwydd ond bydd yn rhaid i Hague feddwl am strategaeth newydd wedi i'r etholwyr anwybyddu ei alwad i roi ffoaduriaid dan glo a saethu lladron.

ychydig o effaith a gafodd adfer y deddfau hyn ar alltudiaeth ei hunan.

Yng nghanol yr awydd i adfer Tamerlane yn lle Stalin fel eu harwr a'u Llywelyn, purion yw peidio peri tramgwydd i genhadon yr Ayatollas!

Pe medrai, mynnai adfer poethder yr hen hafau i'w wythiennau brau.

Effeithiodd y dull hwn o feddwl yn ei dro ar ei gobeithion Mesianaidd, a'r pennaf o'i disgwyliadau oedd gweld adfer brenhiniaeth Dafydd.

Maen rhaid ei fod yn sylweddoli mai'r un peth sydd debycaf o adfer ei ffawd wleidyddol yw lluniau teuluol o'r arweinydd Ceidwadol yn gwenun garuaidd wrth i Fabi Hague gymryd ei gamau cyntaf.

Yr unig fodd o adfer yr iaith yw ei hadfer o fewn cymdeithasau sefydlog a naturiol Gymraeg.

Yn yr orsedd hon eglurodd Iolo Morganwg beth oedd pwrpas Beirdd Ynys Prydain, sef adfer cerdd dafod, y cyfrwng, meddai, a ddiogelodd y Gymraeg rhag llygru, a hyrwyddo'r mesurau rhydd i hyfforddi'r werin.

Edrychwn ymlaen at ein degfed penblwydd gyda'r sicrwydd ein bod yn cynnig ffordd pendant o adfer yr iaith trwy gynnal gweithgareddau a chyfleoedd sy'n dod â Chymry Cymraeg a dysgwyr at ei gilydd.

Cais llawn - adfer a newid wynebau blaen y siopau Rheswm: I roddi cyfle i'r Prif Swyddog Cynllunio drafod y cais ymhellach gyda'r aelodau lleol a Chyngor Tref Pwllheli.

Nid dim llai na chwyldroad yw adfer yr iaith Gymraeg yng Nghymru.

Da iawn y dangosodd y cenedlaetholwr Seisnig, Mr Enoch Powell, yn Barn (Mawrth 1972) na eill y ddadl honno fyth adfer cenedl.

Yn ardaloedd de Ethiopia, mae'r Cenhedloedd Unedig yn ceisio adfer y tir a gafodd ei esgeuluso a'i ddifetha.

Rwy'n dweud wrthoch chi - yn y cyfnod y sgrifennwyd yr awdl yna yr oedden ni'n genedl a roedden ni'n poeni am Dryweryn, Adfer ar fin cael ei sefydlu ac yr oedd Cymdeithas yr Iaith ar waith 'da ni.

Bydd rhai bonciau creigiog, tir oedd yn wynebu'r haul a gro ambell afon yn hir iawn cyn adfer eu lliw gwyrddlas.

Pabyddion dirgel oeddynt yn ceisio adfer yr hen grefydd, meddai rhai.

Yn wir, tybir ei fod yn gweithredu i adfer y corff i'w gyflwr normal pan fo rhyw ddylanwad yn tueddu i'w yrru ar gyfeiliorn.

Drannoeth yr ysbeilio a'r difa daw'r adfer a'r ail-godi.

Ond sut y gellid adfer bywyd i gorff oedd eisoes yn hanner marw?

Ymlaciodd eto a mwynhau cynhesrwydd ei blancedi gan lithro'n freuddwydiol-ddyfnach i gofio am yr hen hapusrwydd, y dyddiau melyn cynnar, yn arbennig cofio'i Hewyrth Joseph yn cyrraedd Trefeca mewn chaise o Lundain i adfer ei iechyd yn y tawelwch.

Ni ellir adfer gwychder ein canu trwy gynllunio a defnyddio ystrywiau.

Ers wythnos roedd Therosina wedi gorchymyn ei milwyr i fynd i mewn i wlad y Madriaid i adfer trefn yno - meddai hi.

Fel y dywedodd rhywun, llawn cystal nad ydyn nhw'n mynd i ddisgwyl nes y bydd Michael Douglas wedi adfer ei siap ef hefyd.

Syniad Edward Williams (Iolo Morganwg), saer maen, bardd ac ysgolhaig o Drefflemin, Bro Morgannwg, oedd sefydlu'r mudiad, a hynny er mwyn adfer y traddodiad barddol i'w hen ogoniant.