A'r adferf 'yma' yw'r fwyaf hanfodol a'r fwyaf dirfodol o'r adferfau neu'r ymadroddion adferfol oll.
Dyna'r cyfan ydyw: y berthynas rhwng Enw, Berf/Ansoddair, ac Adferf.
Adferf yw yma yn ôl ei brif swyddogaeth ond aethpwyd i'w gyfuno â'r fannod yn swyddogaeth ansoddair dangosol didoledig, y ...yma, mewn dynwarediad o'r gwir ddangosolion hwn, hon etc., a all weithredu yn swydd rhagenw dangosol neu fel ansoddair dangosol didoledig mewn cydweithrediad â'r fannod.
Tri cham: hunan-ddibyniaeth (enw), dibyniaeth gyntaf (berf, ansoddair), ail ddibyniaeth (adferf).
Adferf: yr ail ddibyniaeth.
Wedyn, ac yn olaf yn y gyfundrefn hon, yr Adferf, sy'n dibynnu naill ai ar Ferf neu ar Ansoddair.