Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

adferiad

adferiad

Y mae gan adferiad dyn, fel ei gwymp, ganlyniadau cosmig.

Dymunwn iddi adferiad llwyr a buan ac estynnwn iddi ac i Mrs Sally Lewis, chwaer Mr Jenkins ein cydymdeimlad llwyraf.

Fy argyhoeddiad personol yw fod syniadau an-Feiblaidd a hiwmanistaidd wedi gweithio fel cancr yng nghalonnau llu mawr o grefyddwyr ac nad oes obaith gweld adferiad heb edifeirwch diwinyddol a dychwelyd at "y ffydd a roddwyd unwaith i'r saint".

Rowland Hughes adref i Gaerdydd o'r Nature Cure Clinic yn swydd Bedford, â'i obeithion am adferiad iechyd oddi wrth yr afiechyd blin a'i poenai, yn chwilfriw.

Ond roedd y gobaith yn dal, roedd rhyw fymryn o obaith am adferiad a pharhad y Ffydd a'r achos, hyd yn oed os mai cul ydoedd fel y stribedi o olau a ddihangai rhag caethiwed y llenni duon, trwchus, dros y ffenestri.

Dymunwn adferiad llwyr i Malcolm, a nerth i'r teulu yn eu pryder.

Dyfodiad grym newydd i mewn i'r bywyd dynol, hynny yn unig, a allai arwain i adferiad.

Dymunwn adferiad buan iddo, ac hefyd i Mrs Mary Jones, Hill Side ar ol damwain.

Dymuniadau gorau am adferiad llwyr Mrs Evans.

Dymuniadau gorau am adferiad llwyr i Mr Lyn Lewis, Salisbury Rd.

Dymunwn adferiad buan iddi.