Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

adfywio

adfywio

Bu ffigurau cynulleidfaoedd teledu yn dda yn gyffredinol, gan adlewyrchu gallu cystadleuol cynnyrch BBC Cymru, a thra bo rhywfaint o bryder ynglyn â safle presennol BBC Radio Wales, mae arwyddion bod y penderfyniadau strategol, golygyddol a phroffesiynol cywir yn cael eu gwneud i adfywio'r orsaf.

Doedd gen i'r un syniad ar y pryd beth oedd y ffrwyth, ond wrth ei flasu y prynhawn hwnnw, a chael 'y nghyflwyno am y tro cynta i'r melwyn dwr, fe alle unrhyw un gadw'i caviar a'i siampên--ar yr eiliad honno, fedre dim byd melysach na brafiach fod wedi gwlychu 'ngwefuse i, ac roedd oerni a ffresni'r sudd yn adfywio ceg oedd yn boenus o sych.

Mae Antur Waunfawr wedi sefydlu eu hunain fel cwmni arloesol sydd nid yn unig yn hyfforddi ac intigreiddio pobl gyda anhawsterau dysgu, ond hefyd yn chwarae rhan allweddol i ysgogi y gymuned leol i adfywio'r gymuned ac adfer eu hamgylchedd yn unol â gofynion Agenda 21.

Fodd bynnag, rhaid bod yn reit ofalus wrth dderbyn hyn, gan fod economi Cymru yn dechrau adfywio o sylfaen cryn dipyn yn is, ac ni welwyd effeithiau'r twf i unrhyw raddau o werth yng Ngogledd Orllewin Cymru.

Mae BBC Radio Cymru wedi parhau i adfywio rhaglenni, gyda chymorth strategaeth farchnata fywiog yn seiliedig ar ystod o ddigwyddiadau a chyngherddau awyr agored yr ymddengys eu bod wedi cyrraedd cynulleidfaoedd newydd.

`Pan drown yn llwch,' meddai'r geiriau ar y garreg, `os bydd iaith Lithuania'n gry' ac os bydd ysbryd Lithuania, trwy ein hymdrechion ni, wedi adfywio; yna, hyd yn oed yn y bedd, fe allwn orffwyso'n fwy tawel.'

"Mae'n holl bwysig bod swyddfa Gogledd-Gorllewinol yr Awdurdod yn aros yn agored i gadw mewn cyswllt a diwydiant, AS a'r awdurdodau lleol er mwyn adfywio economi'r ardal," meddai Mr Jones yr wythnos hon.