Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

adlewyrchir

adlewyrchir

Adlewyrchir y darlun hyn yn y pedwar fframwaith poblogaeth.

Y mae, wedi'r cwbl, wahaniaeth rhwng Battersea a Bayswater, rhwng Forest Gate a Finchley, ac adlewyrchir hyn yng nghymeriad y trefi ar lan y Gamlas.

Ceir cofebau a chroesau o garreg sy'n dyst i weithgarwch Cristnogol cynnar ac adlewyrchir enwau'r saint yng Nghymru mewn enwau lleoedd megis Llandeilo, Llanddewi, Llansantffraid.

Pan fydd goleuni'r haul neu oleuni artiffisial yn disgleirio ar ddefnydd didraidd megis y dudalen hon yr ydych chwi'n ei darllen, adlewyrchir y cyfan, bron, o'r goleuni yn ol i'r awyr, sy'n golygu y medrwn ni ei weld.

Adlewyrchir hyn yn y galw mawr a fu am lawysgrifau'n cynnwys y Fwlgat.

Adlewyrchir yr edmygedd hwn o genedlaetholwyr Iwerddon yn Awdl Gwenallt.

Nofel a addaswyd ar gyfer teledu yw'r naill, cyfres deledu a addaswyd yn nofel yw'r llall, ac fe adlewyrchir hynny'n amlwg yng nghrefft y ddwy.

Ochr yn ochr â'r agweddau cadarnhaol a adlewyrchir uchod, mae rhai o'r canlyniadau'n dangos fod sawl her yn dal i wynebu'r iaith.

Os bydd y dewis hwn yn fanwl a chywir, yna adlewyrchir y canlyniadau mewn ffurf amlwg ac arbennig.

Cytundeb tebyg a adlewyrchir mewn llinell megis 'Dau fonedd a dwf uniawn' a'r llinell rymus honno am y ddau o fewn eu plasty 'yn porthi holl Gymru'.

Trwy'r cymdeithasu mynych a fu rhwng aelodau o'r teulu a'u cyd-ysweiniaid Cymreig ac â'r uchelwyr Seisnig, un ai yng Ngwedir neu yn Llwydlo neu yn Llundain, adlewyrchir yn barhaol yr ymdrech uchelgeisiol honno i gyfleu rhyw naws neu statws cymdeithasol arbennig.

Adlewyrchir yr amwysedd hwn yn y disgrifiad o Siôn yn yr ail baragraff, y diniweidrwydd annwyl a'r anwadalwch ar y naill law, ac ar y llall y duedd i efelychu oedolion.