O'r Alban yr oeddwn i wedi dod i Rydychen, ac yr oedd pobl y gogledd wedi gofalu amdanaf Pe buasai raid i mi fel llawer Cymro arall, ddibynnu ar garedigrwydd fy nghyd Cymry wedi dod i Rydychen am gyfeillach a chyfarwyddyd,buaswn mor unig â hen frân gloff ar yr adlodd.
Mae prinder adlodd i besgi wyn ar ambell ffarm ac mae eraill, lle bu gwrteithio am ail dyfiant, yn ceisio ennill crop ychwanegol o silwair yn yr hydref.
Dywed mai o'r Alban yr oedd ef wedi cyrraedd Rhydychen ac mai pobl yr Alban a oedd wedi gofalu amdano; oni bai amdanynt hwy, mi fuasai wedi bod fel 'brân gloff ar yr adlodd oblegid 'nid oedd y Cymry wedi arfer ymgyfarfod, ac ychydig iawn o drafferth oedd neb yn gymeryd i ddangos mai Cymro oedd' Y gwir yw, petasai OM wedi mynd o Aberystwyth yn syth i Rydychen yn hytrach na via Glasgow, mi fuasai wedi bod ymhlith cyd Gymry o'r dechrau cyntaf, ac odid na fuasai wedi clywed am Glwb Coleg Aberystwyth.