Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

adnod

adnod

Fe ddywed y Quran yn Sura 42, adnod 41: 'Nid yw'r sawl sy'n ymladd pan fyddant dan ormes yn euog, ond bydd Allah yn cosbi'r gormeswyr.' Deued y dydd.

Byddai disgwyl i ni ddweud adnod yno hefyd, a honno'n adnod wahanol i'r un a ddywedid ar y Sul.

Cyn agosed fyth ag a allai i ymyl uchaf y ddalen, yn ei iaith ei hun, dododd Mr Kumalo o Swasiland yn yr Affrig ei adnod, fel bachgen bach yn y seiat, a rhoes y Saesneg yn wylaidd rhwng cromfachau ar ei hôl: God is Love.

Gollyngodd ei dannedd gosod i jwg chwart o ddwr a halen, penliniodd i ddweud ei phader ac yna dringodd i'r gwely dwbl i gysgu noson arall yng nghwmni llun Cynddylan Jones a siampler ac arni'r adnod - 'Na thrysorwch i chi drysorau ar y ddaear', mewn ffrâm fahogani.

Mewn un peth yn unig y ceir digonedd yn y byd hwn, a chyflwynwyd hwnnw inni mewn darn o adnod: Digon iti fy ngras i.'

Fo oedd yn fy ysgogi i roi cynnig arni.' Ac yn wahanol i sawl plentyn arall oedd yn gorfod adrodd adnod mewn gwasanaeth neu gymryd rhan yn yr Ysgol Sul, roedd y Judith ifanc yn falch o'r cyfle.

'Mae'n siŵr fod na adegau pan nad oeddwn i isio dysgu rhyw adnod ne'i gilydd, fel pob plentyn, ond ar y cyfan doedd 'na ddim cicio a strancio ar fy rhan i,' meddai.

Mawr fyddai'r ymdrech nos Sul neu ar ôl te ddydd Llun i ddysgu adnod mewn pryd.

Ni fu dysgu na dweud adnod yn fawr o boendod imi erioed.