Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

adrannau

adrannau

Ond mae'r aelodau'n parhau'n obeithiol y bydd canllawiau ar gael ar gyfer rhai o adrannau'r Goron cyn diwedd y flwyddyn gynta'.

Ni ragwelwyd na fyddai ganddi, o leiaf ar y dechrau, na'r agwedd meddwl, na'r pwysau a fyddai'n ei galluogi i lunio polisiau na fyddai'n adlewyrchiad uniongyrchol o bolisiau adrannau eraill Whitehall.

Trefnir y staff mewn adrannau, a chyd-drefndir y gwaith gan raglen o gyfarfodydd adran, rhyng-adrannol a staff, gyda chysylltiad clos rhwng pob adran a'r is-bwyllgorau rheoli sy'n gyfrifol am yr agwedd honno o waith y Gymdeithas.

cymharu yn gyson y canlyniadau â'r gyllideb er mwyn darganfod camgymeriadau, rheoli gwaith aelodau o'r staff sy'n gyfrifol am wahanol adrannau, a darparu data at gyfer amcangyfrifon pellach at y dyfodol.

Croesdoriad yn cynrychioli nifer o asiantau oedd yno: awdurdodau addysg, adrannau gwasanaethau cymdeithasol, colegau addysg bellach, colegau hyfforddi, y cyfryngau, maes Cymraeg i Oedolion, y sector wirfoddol, cymdeithasau rhieni.

Synnwn i ddim na fydd Earnshaw, sy'n 19 oed, yn cael cynigion i symud i glybiau mewn adrannau uwch.

Bydd yn rhoi cyfle i bawb feddwl am yr hyn y maent yn anelu ato a bydd yn gosod disgyblaeth ar y gwahanol adrannau, fel bod y penaethiaid yn deall y sefyllfa ac yn osgoi gweithredu'n groes i'w gilydd.

Ymhlith y penaethiaid adrannau Cymraeg Uwchradd a atebodd, un yn unig a gynigiodd sylw anffafriol, sef ...agweddau yn rhy academaidd...

Roedd rhaid iddo ef wedyn gael llais yn y prif benodiadau - y swyddogion sy'n gyfrifol am y gwahanol adrannau.

* adrannau gwasanaethau cymdeithasol sy'n darparu lleoedd statudol ar gyfer plant mewn angen mewn canolfannau dydd neu ganolfannau teulu neu mewn ysgolion gwirfoddol;

Dros y blynyddoedd, fe fu rhai adrannau'n fwriadol yn peidio penodi Cymry Cymraeg.

Yr adrannau yn y traethawd yn delio â'r Purdan a'r Offeren a gynhyrfodd dynion y mudiad a dychryn ei gefnogwyr fwyaf.

Fel ei gyd-athrawon yn Adrannau Cymraeg eraill tri choleg y Brifysgol, roedd yn rhaid iddo gynhyrchu rhan fawr o'r tetunau llenyddol y gelwid arno i ddarlithio arnynt ac aeth llawer o'i ynni a'i amser i gyhoeddi defnyddiau felly - argraffiad o gywyddau Goronwy Owen, a blodeugerdd o farddoniaeth yr Oesoedd Canol.

Bu adeg pan reolwyd ein llenyddiaeth gan bregethwyr - yn awr disgwylir i bob aelod o staff adrannau Cymraeg y Brifysgol fod yn llenor, bron na ddywedwn bawb sydd wedi graddio yn y Gymraeg.

Adrannau gwybodaeth y gwahanol lywodraethau sy'n eu cyflogi nhw a'u rôl yw gwneud trefniadau ar gyfer y ffilmio, sicrhau nad yw ffilm yn cynnwys deunydd sy'n adlewyrchu'n wael ar y Llywodraeth a gwneud yn siwr nad yw'r newyddiadurwyr a chriwiau teledu'n gwneud gwaith ysbi%o.

Gwnaeth yr obsesiwn gyda chreu cystadleuaeth ddinistrio llawer o'r adrannau o'r gwasanaeth addysg Gymraeg.

Er nad yw'r adran yn fawr o'i chymharu a rhai adrannau o brifysgolion eraill y wlad, mae ei chyfraniad i wyddorau'r môr yn sylweddol ac mae llawer o'r gwaith sy'n cael ei wneud ar y cyd gyda phrifysgolion Ewrop, yr UDA, Awstralia a gwledydd eraill y byd.

Deuai'r rheolwr i'r gwaith bob dydd, gan ymweld â'r gwahanol adrannau yn eu tro.

Rhaid i athrawon a/ neu adrannau ystyried mabwysiadu polisi pendant ynglyn a chywair eu hiaith lafar.

Fe welwn ni, fel rhan o ysgol fabanod neu ysgol gynradd, blant dan bump mewn unedau meithrin, adrannau meithrin, dosbarthiadau meithrin.

Wedi chwarter canrif o brofiad gwelwn mai gwaith cyson y Swyddfa Gymreig - ar wahan i'w chyfrifoldeb am y Gymraeg - yw (a) gweinyddu gyda help y cyrff annemocrataidd sydd dan ei rheolaeth, bolisiau craidd Adrannau nerthol Whitehall, boed y polisiau yn gyson â'n dyheadau yng Nghymru a'i peidio, a (b) cymryd cyfrifoldebau iddi ei hun a ddylai fod yn nwylo cynrychiolwyr etholedig y bobl.

Ymhob un ohonynt, dadansoddir y testun yn bwyllog, symudir o bwynt i bwynt yn rhesymegol, dosrennir y pwyntiau'n is- adrannau, nodir yr athrawiaethau sydd yn ymhlyg ym mhob rhan, a goleuir y datganiadau a wneir gan brofion, sef cymariaethau, trosiadau, cyferbyniadau, daduniadau, oll wedi'u tynnu naill ai o'r Ysgrythur ei hun, o lyfrau a ddarllenasai Rowland, neu o'r byd naturiol yr oedd ei ddarllenwyr yn gynefin ag eś Mae iddynt fframwaith o resymu clir.

Mae eich cyfrifoldeb yn fawr gan mai chi fydd yn: penderfynu pa faes sydd yn fwyaf perthnasol i'ch ysgol neu i adran benodol cyflwyno'r syniadau a'r unedau perthnasol i'r adrannau arwain rhai o'r sesiynau sydd a dogn go helaeth o theori sydd yn newydd i'r athrawon e.e.

Rhoddir pwyslais ar bartneriaeth rhwng yr holl gyrff (ysgolion, AALl, awdurdodau iechyd dosbarth, adrannau gwasanaethau cymdeithasol, cyrff gwirfoddol ac, wrth gwrs, rhieni).

Ymrestrodd amryw o wŷr amlwg yn y Brifysgol tu ôl i Newman, fel William Palmer, a fu'n llugoer ei deimladau tuag ato er pan gyhoeddwyd Remains Hurrell Froude, a Dr Pusey, a apeliodd am amser a chyfle i Newman gael ei amddiffyn ei hun, er nad oedd yn cytuno â rhai adrannau o'r Traethawd.

Diffinir union ddyletswyddau'r Pwyllgor Rheoli, yr is- bwyllgorau, a'r adrannau, gan ddulliau gweithredu sydd o dan arolygaeth cyson.

Ar hyn o bryd y mae PDAG yn cynghori'r system gyfan ar sail ymchwil ac adnabyddiaeth o bob agwedd ar addysg ym mhob sector, trwy ei gysylltiadau â'r gweithwyr yn y sefydliadau addysgol a'r asiantau cenedlaethol sy'n darparu ar eu cyfer, a thrwy gysylltiadau beunyddiol ag adrannau'r Swyddfa Gymreig.

Yn Adrannau 5-8 isod, delir yn fanwl â'r pedair prif her, gan nodi'r prif feysydd y dylid eu targedu.

Galwn felly am fabwysiadu strategaeth gynyddol i wneud y Gymraeg yn brif iaith gweinyddiaeth fewnol y Cyngor Sir - gan ddechrau yn syth yn yr Adran Addysg, ac yn ymledu dros gyfnod rhesymol i Adrannau fel Gwasanaethau Cymdeithasol, Cyfathrebu, Cynllunio nes cwmpasu pob adran gan gynnwys Swyddfa'r Prif Weithredwr ei hun.

Rhaid cael stamp ar ôl stamp gan wahanol adrannau'r heddlu lleol.

A oes polisi ysgol-gyfan ar gyfer AAA, yn cael ei adlewyrchu ym mholisi%au'r adrannau?

Eto i gyd y mae yn Llŷn niferoedd o deuluoedd ymroddedig a'u plant yn Gymry glan gloyw, a bydd y plant rheini yn siarad Cymraeg hyd ganol a diwedd y ganrif nesaf, oherwydd y mae yn Llŷn hefyd gyniwair mewn Clybiau Ffermwyr, mewn Adrannau o'r Urdd, mewn Cyfarfod Plant ambell i gapel, mewn tafarn Gymraeg Gymreig, mewn Eisteddfod a Sioe a Chyrddau Pregethu a rasus motos.

Cawsom ddarlithwyr, hyfforddwyr gwych yng ngwahanol adrannau byd amaeth ac y mae llawer brawddeg a chyngor yn canu yn y cof o hyd.

* Cyngor Cyllido Addysg Uwch sy'n darparu cyrsiau mewn athrofeydd, colegau (ac ysgolion) hyfforddi athrawon a phrifysgolion (gan gynnwys adrannau efrydiau allanol);

Yn nechrau'r pumdegau fe ffurfiwyd adrannau, sef Adran y Gogledd, Adran y De a'r Adran Ganol, pob un gyda'i phwyllgor, ei swyddogion a'i chyfrif banc.

Mae gan benaethiaid yr adrannau perthnasol gyfrifoldebau arbennig mewn perthynas a chynnwys, dulliau cyflwyno a safoni.

Mae'r Gweinidog Materion Cymreig yn gwneud a fedro gyda chymorth adrannau o'r gwasanaeth sifil i hybu'r polisi hwn; nid yn ofer chwaith.

Dylid trafod gydag adrannau eraill o'r cyngor, asiantaethau a'r sector wirfoddol sut y gellir gwneud y defnydd helaethaf o adeiladau ac adnoddau ysgolion i wasanaethu'r gymuned.

Mae pobl wedi tueddu i'w cadw mewn adrannau ar wahan yn eu meddyliau, fel petaent yn son am fydoedd gwahanol.

Synhwyrir mai'r hyn a olyga yw nad â chanonau moesol y dylid beirniadu darn o lenyddiaeth, er mae'n siwr yr honnai hefyd na ellir ysgaru llenyddiaeth yn llwyr oddi wrth adrannau eraill bywyd.

Yn unigryw i'r Ysgol, o gymharu ag adrannau gwyddor môr eraill ym Mhrydain, mae llong i astudio'r môr, sef y Prince Madog.

Mae'r Adran wedi rhoi cychwyn pendant ar ddefnyddio Technoleg Wybodaeth, gan feddu ar y sustem fwyaf soffistigedig a chynhwysfawr o blith holl adrannau'r Awdurdod.

Efallai y byddo rhai penaethiaid adrannau sydd a gwir ddiddordeb yn y maes yn gweld gwerth yn yr adran hon yn ogystal.

Gyda'r post bob bore, daw tomennydd o hysbysiadau o adrannau cyhoeddusrwydd gwahanol gwmni%au a mudiadau.

Gwelir hwy mewn clytiau dyrchafedig ac fe'u dosberthir dros adrannau distal wynebau allanol y llabedau mewnol.

A oedd adrannau masnachol yn llwyddiannus?

Cannoedd o wahanol adrannau o'r Lluoedd Arfog, rhai yn teithio gyda 'full pack', eraill yn troedio'n ysgafn, dynion a merched a channoedd hefyd o sifiliaid.

Gallai'r rhan drwchus ym mlaenau'r silia gryfhau'r adrannau hyn ond gallai fod iddi arwyddocad arall hefyd.

Dywedodd Dafydd Morgan Lewis, Swyddog Ymgyrchoedd y Cynulliad Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, ' Yr ydym am gael y cyfarfod brys hwn gyda phenaethiaid yr adrannau newyddion perthnasol er mwyn trafod dulliau o isdeitlo a/neu drosleisio mwy effeithiol.

Yn hytrach na chynnal Pwyllgorau Rhanbarthol, credwn y dylai gwaith dydd i ddydd y Cynulliad gael ei ddatganoli o Gaerdydd gyda gwahanol adrannau o'r Cynulliad yn cynnal canolfannau mewn gwahanol rhannau o Gymru.

Y mae~r 'Ceiliog Mawr', a saif mor amlwg rhwng adrannau Wellington a Victoria, yn llawer mwy na'r 'Negro'.

Ond wedyn, buasai Ynot a'i gyfeillion yn siŵr o feddwl am ryw ffordd arall, rhyw adeilad arall i'w godi, a gellid mentro y byddai'n adeilad a apeliai i rai adrannau o'r bobl.

Gan mai drwy'r Adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol Sirol y sicrheir cyllid ar gyfer gwaith plant fel arfer, ceir problem neilltuol mewn siroedd sydd â nifer fawr o lochesau, efallai bump neu chwech yn hytrach na dim ond dwy neu dair.

Trwy ddefnyddio cynllun costio, y mae'n bosibl mesur cyfraniad y gwahanol adrannau i'r elw a wneir.