Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

adre

adre

"Sut mae Owen?" "Reid dda; mi ges lythyr y bore yma, yn licio i le'n iawn." "Da iawn bod rhywun yn hapus." "Ond cofiwch, 'dydi i gyflog yntau ddim hanner digon, a chysidro'r gost sy wedi bod efo fo." "Nag ydi, mae'n siŵr." "Mae o'n talu chweugian yn yr wsnos am lodging ac yn prynu i fwyd i hun." "Gwared y gwirion!" "Ydi, a mae'r criadur bach yn tri%o anfon rhyw 'chydig adre bob mis." "Chwarae teg iddo fo.

'Mi gyrhaeddai Mr Williams adre a'i lyged ar gau, Mam.'

Yn debyg i hogie Cwmaman, mae'r geiriaun adlewyrchu bywyd clostroffobig mewn tref fach - merched yn yfed gormod er mwyn canu karaoke, a Jonny Pritch yn meddwi, cael ffeit yn y siop kebab ac yn cael crasfa gan y Mrs am fynd adre efo lovebites.

Mi fyddai yna stori ysgafn yn y Cymru'r Plant weithiau, ond prin y byddai hi byth yn ddigon digri i'w hail- adrodd ar y ffordd adre o'r ysgol neu wrth aros iddi stopio bwrw glaw ar bnawn Sadwrn.

Nid oedd yn anodd i hogiau'r Nant sleifio adre gan fod Llwybr y Garreg Wen y tu ôl i domennydd uchel o rwbel, ac os am ddal troseddwr byddai'n rhaid i stiward fynd i ben un ohonynt i gadw gwyliadwriaeth.

Dau lanc ifanc yn mynd i garu Ar lan yr afon ar i fyny Sūn cacynen yn y rhedyn Trodd hwy adre'n fawr eu dychryn.

Ond doedd o ddim am ei roi'i hun ar brawf, rhag ofn iddo ildio a rhedeg adre i nôl ei bres.

`Mae yn reit ddrwg gen i drosoch chi, Harri,' ebe Ernest; `brysiwch adre i newid eich dillad,' a neidiodd ef a'i gydymaith i'w cyfrwyau ac ymaith â hwy, gan adael Harri i droi tua'r Wernddu.

Cofiaf gael un 'wers' trwy ddysgu tôn a geiriau cân werin yn dechrau 'Pegi Bach a aeth i olchi', a'r drychineb ofnadwy iddi orfod mynd adre i nôl y sebon a chanfod pan ddychwelodd fod y dillad wedi diflannu gyda'r llif.

Roedd bod adre'r bore 'ma 'di bod o help gan i Shirley fod adre hefyd, efo pwl o gaethdra ar 'i megin.

Gyda Concorde fe allem gael brecwast adre, cael coffi ganol bore yn America a dod nol i swper.

Dôi ambell i filwr adre o'r rhyfel yn gloff, yn brin o fraich ac weithiau'n ddall ond arwydd o statws oedd hynny.

Tybed a oedd Geraint a Gomer wedi clywed nad oedd wedi cyrraedd adre o Dreheli.

Mi â i i nôl y ffrog ar fy ffordd adre.

Ac os na fydd rhywun yn dod mi awn ni adre.' 'Ie,' cytunodd Gareth.

Wrth iddi ddilyn y map arbennig mae'n dod ar draws trysor arbennig iawn - crwban môr sydd ar goll ac angen ei achub - a dyna'n union mae Megan a'i thaid yn ei wneud drwy fynd a fo i'r Sw Môr er mwyn iddyn nhw ei anfon adre i Ganolbarth America.

Fe aethon nhw adre yn sicr bod rhaid cefnogi'r sianel Lydewig a bod ynddi y gallu i wneud gwahaniaeth i sawl agwedd o fywyd Lorient a Llydaw.

Wrth gerdded adre'n benisel linc-di-lonc hyd lwybr a redai yn ymyl gwifrau netin uchel y cae chwaraeon, dechreuodd Guto freuddwydio.

Wedyn, fe wnaethon nhw raglen cadw'n heini personol i bob un ohonom, ar gyfer ymarfer adre.'

Wir, roedd sawl un yn arfer taro draw wedi nos, gan esgus mynd i weld 'i mam, ac yn ddigon parod i Luned 'i hebrwng e at glwyd yr ardd cyn mynd adre.

Gyrru, gyrru adre, Wedi priodi ers dyddie!"

Gan fod Mam yn rhy brysur ar fore Sadwrn i feddwl am baratoi cinio, byddai Dad yn galw yn y siop sglods ar ei ffordd adre i brynu cinio parod.

Wedi pregethu yn y gyntaf yn y bore, ni roddodd neb w ahoddiad iddo i gmlo, a bu raid iddo yrr.lwybro i'r eglwys arall y prynhawn, pregethu yno, a dychwelyd adre heb damaid o fwyd ers amser brecwast!

Yn ystod y dyddia' hynny 'roedd hi'n beryg' bywyd, onid oeddech wedi cael swydd yn rhywle, i chi gael eich galw i wasanaethu'ch 'gwlad a'ch cyntri', ys dywedai Jac Llainsibols ac erbyn i mi gyrraedd adre' yr oedd llythyr oddi wrth y Frenhines yn fy aros yn estyn croeso cynnes i mi ymddangos o'u blaena' nhw yn Wrecsam 'na!

A dyna sut yr aeth y neges adre.

Un nos Sul, a minnau erbyn hynny wedi symud o'r fro a chartrefu yn ardal Dinmael, daeth neges teliffon yn gofyn imi frysio adre i fro fy mebyd am fod Mam yn ddifrifol wael.

Cyrhaeddai adre o'r môr yn llwythog; creiriau'r Almaen a Ffrainc i ymuno â'r rhai oedd yma'n barod o'r India, Japan a lleoedd pellennig eraill - ambarel o ffasiwn newydd a blygai'n dwt i fag llaw fy Mam; llathenni o sidan i wneud ffrogiau i Mam a minnau; melfed wedyn i wneud trowsusau "dydd Sul" i 'nau frawd.

Mae Casnewydd yn teithio i Castres ar ôl curo'r Ffrancwyr adre yr wythnos diwetha.

Fel rheolwr felly roedd y gwr oedd yn dod adre i Gymru o Seattle yn newydd i bawb.

Mae Mr Jenkins a'i wraig Frances yn cael pleser mawr o groesawu eu plant adre'.

' Mi es inna adre' a 'nghynffon rhwng fy ngafl.

Penderfynodd y capten y byddai'n anelu adre am Genoa - 'o leia mi ga'i groeso'n fanno' - i fyny'r arfordir.

'Fysen i'n dweud fod yr ugain munud ola yn waeth i'r bobol adre oedd yn gwylio'r gêm ar y teledu.

Y noson yma roedden nhw wedi dod adre fel arfer; roedd o wedi agor y drws efo goriad fel arfer, ac roedd y ddau wedi cerdded i mewn i'r tŷ i glywed y sŵn malu a thorri mwyaf ofnadwy yn dod o'r gegin.

Pan aeth Beti yn ôl adre darganfu fod Geoff, ei gwr, wedi diflannu gyda'r arian i gyd.

Os oedd ei eirie'n ein synnu, felly hefyd ei weithredoedd ac o fewn llai na phythefnos i'r mab afradlon ddychwelyd adre roedd yn enwi ei garfan gynta un a honno'n cynnwys cymaint ag wyth chwaraewr oedd heb enn;lll cap llawn i Gymru o'r blaen.

"Ydy, Elystan." "Mi ddaw'r hogiau adre' o'r Deheubarth, adre o'r rhyfel gyda hyn efo byddin y Tywysog, Gwgon." "Ia, yn fuddugoliaethus." "Ac heb ddim i'w wneud am nad oes ar y Tywysog eisiau brwydro 'chwaneg yn erbyn ei hanner brawd yng nghyfraith, brenin Lloegr." "Fedar y sawl a aned i ryfal ddim diodda' segura.

Treuliodd y ddwy y pnawn yn edrych o gwmpas y siopau, Llio ar bigau'r drain eisiau mynd adre i bori yn y llyfrau a Mair ofn am ei bywyd i rywun eu gweld.

Meddyliais am y Mab Afradlon yn hanner marw o newyn; roeddwn yn gweld yr un dynged yn digwydd i mi, ond fe ddaeth hi'n well arno ef pan gafodd fynd adre i gnoi aml i sleisen o'r llo pasgedig!

Pan ddaeth Mary adre'r noson honno ar ôl bod yng nghwmni Fred, gyrrodd Ali hi o'r tŷ, ond addawodd y câi weld y plant drannoeth.

"Un prynhawn fe ddaeth y ffarmwr adre o'r farchnad yn gynnar, yn gynharach nag arfer.

Mynd â'r Betsan 'na adre, debyg, ond 'châi hi ddim gwybod dim gynno fo, er iddi gwyno a phregethu ar hyd y ffordd adre.

Mi edrychaf ar ôl fy hun.' Ond 'run fath ag amryw o rai eraill mae'n bosib ei fod wedi cael un dros yr wyth, oherwydd drannoeth y daeth Hugh adre'.

'Ta waeth, ar y diwrnod arbennig yma, ddês i adre o'r ysgol - hwn ydi'n nhy fi, gyda llaw - 'Heulwal', Stad Bryn Glas - jest heibio'r groesffordd a chyn cyrraedd y groesfan zebra.

Wedyn dyma nhw'n mynd adre ar y bws ac roedden nhw'n dal i wenu'n braf.

Ac allan yn y fan honno, mynegais fy mod mewn tipyn o ddilema am na wyddwn yn iawn beth y dylwn ei wneud, p'run ai brysio adre'n syth at fy nheulu yn Ninmael, ai ynteu aros yn y llofft am sbel eto rhag ofn y byddai Mam yn dadebru o'i thrymgwsg.

`O, mae'n braf i fod adre,' meddai Darren.

Mae'n siwr y bydd yn rhaid mynd i chwilio am y ddau lyfr arall yn y gyfres rwan - Ar Goll yn yr Eira ac Adre cyn Nos.

Er ei fod yn briod ac yn dad i blant, dim ond rhyw unwaith y mis yr âi adre; roedd yn amhoblogaidd ymysg y dynion eraill oherwydd ei falchder, a hoffent ddweud mewn smaldod na fedrai oddef gadael ei ddefaid.

Mae Hywel Jenkins, chwaraewr rheng ôl Abertawe, wedii ddanfon adre o daith carfan ddatblygu Cymru yng Nghanada ar ôl bod allan yn yfed y noson cyn i'r tîm guro Tîm Canada A, 67 - 10.

Yna dechreuais weiddi ac hyd yn oed sgrechian, ond yr hyn a weithiau fel brec arnynt oedd llond ceg o Gymraeg na fuaswn yn ei defnyddio'n gyhoeddus adre!

Nid lle'r gohebydd yw arwain ymgyrch heddychwr yn erbyn rhyfel ond, os oes miloedd o filwyr ifanc yn debyg o golli eu bywydau yn y rhyfel hwnnw, fe ddylai'r llywodraeth a'r bobl adre' wybod hynny.

Un o'r tri oedd am aros adre oedd Leighton James ond roedd yn y lleiafrif o bell ffordd.

Bydd Hywel Jenkins ei hunan wedi cael tipyn o amser i feddwl ar ei siwrne adre ynglyn âi ddyfodol rhyngwladol e.

Mi ddylsai fod wedi dŵad adre ers awr neu ragor.

A ninnau'n meddwl bod rhywbeth wedi digwydd iddo.' 'Mi fydd yna rywbeth yn digwydd i ni,' meddai Gareth, 'os nad awn ni adre!

Pan yn ifanc, ac adre am dro, ymddengys iddo fod yn barod iawn ei gymwynas; yn helpu cymydog i dynnu draenen o droed y fuwch; i fodrwyo'r hwch, neu dorri'r gaseg i mewn.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd o ac Elwyn Bodhalan yn hogia wedi cael model o iwnifform y Gatrawd Gymreig bob un; a phan oeddan ni'n dod adre o'r capel ar y Sul roedd y ddau yn sefyll, un wrth bob cilbost efo'u gynnau slygs, yn gwylio lon Caebrynia.

Estynnwn groeso adre i'r teulu i Benlon.

Pan oedden nhw ar eu ffordd adre o'r parc fe welson nhw Dad yn croesi tuag atyn nhw wrth y goleuadau.

Rhag ofn i chi fynd i guddio y tu ôl i'r soffa a chymryd arnoch bod yna neb adre, fe fyddai'n werth cofio eich bod chi'r un mor debygol o ganfor menyw dal, ffasiynol ei gwisg, â chrop o wallt gwyn, yn sefyll ar y rhiniog â chriw o Dystion Jehovah.

'Falle y bydd e'n hwyrach os gallwn ni yrru adre o'ch tŷ chi yng ngole'r lleuad.

Wedi cyrraedd adre', cael cinio hefo'r teulu a the a thipyn o swper; wedyn tri o'i frodyr yn ei ddanfon i'r stesion i ddal y trên wyth i Gaergybi.

Daeth marwolaeth Damilola Taylor ar ei ffordd adre o'r ysgol yn ddiweddar ag atgofion yn ôl i mi am yr adeg pan benderfynodd y ferch hynaf ei bod yn dymuno cerdded i'r ysgol ac yn ôl ar ei phen ei hun.

Ond fel arfer roedd yn well ganddi hi'r shifft gynharach, er mwyn bod adre pan gyrhaeddai Shirley ac Alan, yn lle bod y cyfrifoldeb yn syrthio ar Beti o hyd.

Ond dihangfa oedd hyn oll i Ynot; allan y nos neu beidio, adre'n hwyr neu beidio, rhaid oedd dychwelyd bob nos i gysgu hefo Arabrab, neu o leiaf i orwedd yn effro tra chwythai a chwyrnai ei hanadl wnionllyd drosto.

Mae Carfan Datblygu Rygbi Cymru wedi cyrraedd adre ac yn ymlacio ar ôl taith lwyddiannus yn Canada.

Cyfarfod â Wil ar y ffordd adre'.

Yn ddiweddarach doedd o ddim yn mynd i lawr i'r pentre' ond ar nos Sadwrn am siêf a pheint neu ddau ac adre'.

Pwysleisiai fod Mam yn disgwyl iddo ef ddod adre i fynd â ni i'r Cwrdd am y tro cyntaf a soniai am fy mrawd lleia a waeddodd mâs cyn i'r offeiriad gyhoeddi'r emyn olaf "Sdim fod siarad yn y Cwrdd" nes peri i'r gynulleidfa niferus (yr adeg honno) droi i edrych i gyfeiriad y cyhoeddwr dewr!

Yna'n ôl adre!

Mae Lloegr ar eu ffordd adre o bencampwriaeth Euro 2000 ar ôl colli 3 - 2 yn erbyn Romania.

Yna bydd Ffrainc ar Iseldiroedd, sydd eisoes drwodd yn Grwp D, yn chwaraei gilydd tra bydd y Weriniaeth Czech a Denmarc yn gobeithio am fuddugoliaeth cyn troi am adre.

Ond dwi'n cofio cyfnod ychydig o flynyddoedd yn ôl pan oedd y myfyrwyr Cymraeg yn protestio, roedd rhywun yn cyrraedd adre wedi blino'n lân ar ebychiada' harthiog ambell un gwrth Gymraeg yn y lle 'ma.

Anesthetig lleol, tynnu'r drwg ac adre - proses o ddim mwy na hanner awr.

Roedd hi'n cal aros gartre os oedd 'i mam yn waeth nag arfer, yn cal mynd adre'n gynnar bob nos a dechre'n hwyr yn y bore.

Honnir iddi orchymyn llysgennad Ariannin yn Awstralia i ddanfon cangarw adre er mwyn addurno gardd y palas arlywyddol.

Brysiodd adre i fath poeth, a diferyn o wisgi yn ei the.