Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

adroddwr

adroddwr

Cwestiwn sylfaenol yn 'Adfeilion' yw: pwy yw'r adroddwr, neu'r sylwedydd?

Yn raddol fe ddaw'r hen bâr, ac yn arbennig yr hen ŵr, o gryn ddiddordeb i'r adroddwr, sydd yn ei weld fel cynrychiolydd yr hen ddiniweidrwydd gwerinol a wrthgyferbynnir â bydol-ddoethineb y byd sydd ohoni.

A dyna'r wlad a anrheithwyd gan ddiboblogi: dywaid yr adroddwr am gartref ei anwylyd: 'afler yw meini ei hannedd hi.'

Yr hyn y mae'r adroddwr yn chwilio amdano yw person sydd â hunaniaeth sydd yn annibynnol ar y naill Almaen a'r llall, un sydd yn medru siarad heb fod ei eiriau yn adlewyrchu syniadaeth y naill wladwriaeth na'r llall.

Yn adroddwr a chanwr.

Erbyn hyn mae Hiraethog wedi lleihau ei gyfrifoldeb fel adroddwr.

Ni welir Bob a Margaret gyda'i gilydd; ni roir unrhyw fanylion ynglŷn â datblygiad eu perthynas; a chyn y diwedd pan â Margaret i ffwrdd sylwn fod yr adroddwr yn rhannu anwybodaeth y plwyfolion ynghylch ei lleoliad.

Gwelwn ar unwaith mai'r un persona sydd gan adroddwr y bryddest a'r bardd ei hun mewn ambell gerdd arall: wrth gyfeirio, er enghraifft, at hen bobl nad ydynt yn awr ddeifiol hon ond gwefusau carpiog yn y gwynt a'r lleill y calonnau aeddfetgoch a'u chwerthin yn deilchion yn y brwyn a'r gwallt ar chwal.

Etifeddodd y ddau fab y cafodd hi eu magu i oedran gwŷr, Dafydd a Daniel, rannau gwahanol o'i chynhysgaeth, y naill yn datblygu'n adroddwr storiau yn null yr hen gyfarwyddiaid, a'r llall yn datblygu'n nofelydd, ac y mae'n rhyfedd, er nad efalli'n gwbl annisgwl, ei bod hi'n fath o ddolen gyswllt rhwng yr anterliwd neu'r ddrama Gymraeg, ym mherson Twm o'r Nant, a'r nofel Gymraeg ym mherson ei mab Daniel, oblegid y mae gwreiddiau mwy nag un elfen yn y nofel i'w holrhain yn ôl i'r ddrama.

Daw'n amlwg yn y man fod y cyfaill hefyd yn fab i un o'r troseddwyr Natsi%aidd, ond y mae ef wedi diarddel ei dad, yn wahanol i'r adroddwr, sy'n mynnu cadw cyfrinach ei dad er ei fod yn llawn sylweddoli difrifoldeb ei droseddau.