Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

adwaenai

adwaenai

Adwaenai ei fro yn drwyadl ond sail y cyfan oedd ei serch at Fon.

Adwaenai e'r bobl a oedd yn brysio ar hyd y stryd fel y pobl a ai heibio i'w ffenest bob dydd.

Câi'r pleser o ddweud, "Dyna'n union fuasech chi'n ei ddisgwyl ganddo fo." Adwaenai bob awdur cyn iddo sgrifennu ac nid oddi wrth yr hyn a sgrifennodd, a darlun o'r adnabyddiaeth ydoedd pob tudalen iddi hi.

Dôi'r symbyliad, yn amlach na pheidio, o du unigolyn, neu grwp bychan o bobl a adwaenai ei gilydd yn dda.

A'r cyfarfod yn anterth ei wres, daeth cerbyd i'r fan, a neidiodd gŵr ohono a adwaenai pawb, a phed enwem ef, enwem ŵr y gŵyr Cymru gyfan amdano fel un o golofnau cadarnaf y mudiad hwn.

Un o ysgolheigion disgleiriaf Rhydychen a'i golygai, ond nid dysgedigion a ysgrifennai iddo, ond llenorion gwlad; rhywun a wyddai hanes ei blwyf ei hun, a fedrai ddisgrifio golygfa o ben mynydd, a wyddai am hynodion hen bregethwyr, a gofiai bethau diddorol am ei blentyndod, a adwaenai adar a blodau, neu a deimlai ar ei galon lunio cân o dri neu bedwar pennill.

Nid adwaenai ei dad: collodd hwnnw a dau o'i frodyr pan oedd yn faban saith mis oed.