Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

adwaith

adwaith

Oherwydd atgasedd y goludog ac adwaith Seisnig yn erbyn Lloyd George, pardduwyd y Cymry mewn cyfrolau fel Perfidious Welshman.

Un o nodweddion barddoniaeth Gymraeg erioed oedd 'dilyn ffasiwn farw', a gogwyddo at adwaith.

Ond prin y gellid disgwyl i Gymro ifanc tair ar hugain oed, ar dân o frwdfrydedd tros ei egwyddorion crefyddol, sylweddoli fod y rhod yn troi ac y byddai ei dynged ef ei hun yn dystiolaeth drist i effeithiolrwydd yr adwaith o dan John Whitgift.

Adwaith cyntaf Manawydan oedd goddef yr amgylchiadau drwg, ond o'r diwedd yr oedd yn rhaid iddo ddod o hyd i'r gelyn a'i wynebu.

Sylfaenydd y Blaid Geidwadol yn Lloegr oedd Burke, ac mewn adwaith yn erbyn y chwyldroad Ffrengig y lluniwyd egwyddorion ceidwadaeth.

A beth oedd adwaith y cwmni?

Yr oedd adwaith greddfol, naturiol pob un i gyfeiriad niwtraliaeth, beth bynnag oedd eu bam am iawnderau polisi%au'r gwahanol wledydd, er i nifer ohonynt fethu cadw eu niwtraliaeth heb ei threisio.

Beth, tybed, a fyddai adwaith ei gydweithwyr pan dderbynient ei gerdyn ef o Baris?...

Cymaint yr adwaith ar hyd a lled Awstralia y mae'r cwmni yn awr yn prysur dynnur posteri i lawr rhag tramgwyddo hyd yn oed fwy o ferched.

Nid wyf yn ddigon ffôl i gredu mai drygioni ac anwybodaeth sydd wrth wraidd syniadau eraill, daliadau'r Adwaith, ond yr wyf yn hollol sicr yn fy meddwl fy hun fod y rhai sy'n synio felly yn camgymryd yn ddifrifol.

Nid wyf yn ddigon ffol i gredu mai drygioni sydd wrth wraidd y syniadau eraill, daliadau'r Adwaith, ond yr wyf yn hollol sicr yn fy meddwl fod y rhai sy'n synio felly yn camgymryd yn ddifrifol.

At ddiwedd ei lyfr y mae Dr Morgan yn mynd i blu'r haneswyr hynny sy'n ceisio esbonio'r diwygiadau crefyddol fel adwaith pobl mewn argyfyngau cymdeithasol neu ddiwydiannol.

Wrth drafod ei ffawd canfyddir yn yr History adwaith Maredudd i chwilfrydedd ei garennydd pan symudodd i'r cwmwd anghysbell hwnnw.

Adwaith yn erbyn syniadau Rousseau ac athroniaeth y Chwyldroad Ffrengig yw ffydd boliticaidd Charles Maurras yntau.

Nid oedd yn anodd i'r darllenydd craff gyferbynnu'r estheteg a barodd dramgwydd i Gruffydd yn ei adolygiad a 'Gwrthryfel ac Adwaith' yn yr un rhifyn o'r llenor, lle y traethwyd y gred mewn 'Gwrthryfel cynhyddol yn erbyn awdurdod....twf personoliaeth a lleihad cyfundrefn':

Nid dyma'r lle i feirniadu eu syniadau; digon efallai yw dywedyd nad hawdd gan Gymry a anwyd yn y ganrif ddiwethaf lyncu holl syniadau'r adwaith Ffrengig am genedlaetholdeb a chrefydd.

Mae ei holl adwaith i'w amgylchfyd, fel y portreedir ef, yn arwydd pendant o'i benderfyniad i ddal ei dir ac o'i allu i ffynnu ymysg lladron a thaeogion.

Mae adwaith dyn i sefyllfa annisgwyl yn dweud mwy amdano'n aml na'i ymarweddiad arferol.

Awgrymodd Glyn Jones iddo droi i'r Saesneg fel adwaith yn erbyn crefydd; mae'n bosib bod y newid iaith hefyd yn ymgais i'w uniaethu ei hun a'r hyn a ystyriai ef yn symudiadau mawr y meddwl dynol, i ennill troedle ar lethrau niwlog arucheledd:

Os mai du oedd iard yr ysgol, glas oedd yr awyr o gwmpas, a byddai angen llond tram o 'bleeps' i hyd yn oed ymdrechu cyfleu adwaith y gwerthwr glo i'r rhaffo disymwyth.

'Rwyf yn gyfarwydd â'r adwaith yna bellach.

"Rydw' i'n ddigon prysur rŵan," meddwn i, ar frys, ac yn anghwrtais ddigon er nad oedd yna ddim adwaith oddi wrth y talp o geuled o'm blaen i, "Dodrefnu'r fflat a phrynu celfi newydd, ac atgyweirio a diweddaru a newid tipyn ar y lle hefyd." "Yn wir," meddwn i, a dim ond prin gymryd anadl rhwng dwy frawddeg, "Mae'r pentiwr acw heddiw yn gorfffen addurno'r stafell fyw i mi." Ond nid oedd dianc i fod.

Yr adwaith, fel arfer, oedd colbio'r trueiniaid yn y ddwy res flaen gyda darn o bren a ddigwyddai fod yn gyfleus.

Adwaith pawb i ddechre odd gweud wrtho fe am gadw'i gerflun - hynny yw, pe bai hynny'n bosib.

Yn y cyswllt hwn o edrych ar hanes plwyf, gellir olrhain y mudiadau ac adwaith y bobl tuag atynt gan ystyried eu lles i godi safonau byw.

Calon y drasiedi yn Gwaed yr Uchelwyr yw fod penderfyniad Luned yn adwaith hunanaberthol.

Rhannodd y Rhyfel Cartref yn Sbaen bob gwlad a chenedl lle ceid gwrthdaro rhwng Gwrthryfel ac Adwaith.

Ymhlith y Bedyddwyr gwelwyd adwaith yn erbyn y dylanwadau Efengylaidd.

Thema ganolog: Adwaith ac Ad-drefnu: y Rhyfel Mawr a'r adwaith iddo yng Nghymru; a'r modd y bu'n rhaid i Gymru aildrefnu yn fewnol ar ôl cael ei sugno i mewn i gyflafan y pwerau mawrion; y modd y dechreuwyd amau a chwalu'r hen safonau a fodolai cyn y Rhyfel, a'r Eisteddfod, yn arbennig, yn wynebu cyfnod o argyfwng gyda rhai yn proffwydo ei thranc.

Pan oedd Morgan yn blentyn fe aeth Eglwys Loegr (a oedd yn cynnwys pedair esgobaeth Cymru) drwy broses o Brotestaneiddio cyflym dan y Brenin Edward VI ac yna drwy adwaith Catholig pur chwyrn dan y Frenhines Mari I, ond pan oedd Morgan yn dair ar ddeg oed fe ddaeth y Frenhines Elisabeth I i'r orsedd a sicrhau mai Protestaniaeth Anglicanaidd fyddai crefydd swyddogol y deyrnas - Lloegr a Chymru - o hynny ymlaen.

Ac y mae yr adwaith o hyd yn newid, y berthynas rhwng un uned a'r llall yn cael ei lleihau neu agosa/ u, ac mae'r finiau rhwng unedau yn aml yn aneglur ac yn symudol.

Gwahanol iawn yw adwaith y disgyblion i'r wyrth hefyd yn ôl Marc ac yn ôl Mathew.

Fel y rhan fwyaf o ryfeloedd cartref oddi ar yr Oesoedd Canol, rhyfel rhwng Gwrthryfel ac Adwaith ydoedd.

Holai'n dyner amdanaf, a dweud fel yr oedd wedi mwynhau cwmni Gwyn pan gyfarfu'r ddau gyntaf Gofynnais yn gynnil beth oedd ei adwaith i'r pasiant ar ôl bod ar y llwyfan, ac yr oedd yn ddigon moesgar i beidio â dangos gwyn ei lygaid a chodi ei ysgwyddau, fel yr arferai Illtud ei wneud i ddangos fod rhywbeth y tu hwnt i eiriau.

Os adwaith yn erbyn y Llyfrau Gleision a roes gychwyn i genedlaetholdeb Cymreig yn ail hanner y ganrif, rhaid cyfaddef hefyd mai'r Llyfrau Gleision a orfu.

Golyga hyn y gwneir un sylwedd trwy adwaith un defnydd ar y llall.

Yr oedd adwaith i'r adeiladu - adwaith ar yr amgylchedd a chymdeithas.

Hefyd mae'n werth cofio mai adwaith cyntaf y Gymuned at yr argyfwng yn Iwgoslafia oedd cefnogi'r awdurdod ffederal.