Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

adweithiau

adweithiau

Y mae'r amser sy'n angenrheidiol i fywyd ddatblygu yn ffracsiwn uchel o oes seren fel yr Haul, felly os yw'r adweithiau cemegol yn rhy araf ni fydd bywyd ond prin wedi dechrau cael ei sefydlu pan ddaw ei ddiwedd sydyn yn sgil marwolaeth yr Haul.

Yn ogystal ag atgenhedlu rhywiol, fe geir mwtaniad mewn natur, lle caiff gwybodaeth enetig yn y DNA ei newid yn ddamweiniol - er enghraifft, wrth i ymbelydredd naturiol effeithio ar sail rhai o'r adweithiau cemegol yn niwclews y gell.

Ni all organebau byw fod yn solidau ychwaith, gan fod adweithiau cemegol yn ogystal a phrosesau tryledu mor eithriadol o araf mewn solidau fel y gellir eu hanwybyddu.

Gall rhai bacteria fodoli trwy adweithiau anaerobig di-ocsigen, ond nid yw'r rhain yn gallu cynhyrchu egni i gynnal planhigion ac anifeiliaid cymhleth.

Mae'r ffurf hon yn gyfleus iawn i gynnal bywyd, oherwydd ar ffurf nwy mae carbon yn elfen symudol iawn ac oherwydd ei hydoddedd gall gymryd rhan mewn amryw o adweithiau.

Er mwyn datblygu bywyd rhaid i adweithiau cemegol ddigwydd ar gyflymder rhesymol, ond os disgynna'r tymheredd yna mae cyfradd yr adweithiau hyn yn disgyn hefyd.