Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

adweithio

adweithio

Fodd bynnag, yn ymarferol nid yw'r sefyllfa yn un mor syml gan fod y corff weithiau'n adweithio i ostyngiad mewn cymeriant egni (bwyd) trwy ostwng y cyfradd y mae'n defnyddio egni (cyfradd metabolig).

Yr unig feirdd a llenorion i heddu ei sylw yw'r rheiny sydd un ai'n cyfranogi o'r un weledigaeth Gatholig, glasurol ag ef ei hun, neu, fel Andre Gide yn adweithio'n hunan-ymwybodol yn ei herbyn.

Peth cyffredin iawn yn Lloegr, hyd yn oed ymysg gwŷr llengar, fu adweithio yn erbyn addysg glasurol, a diystyru llenyddiaeth Ladin a Groeg fel rhwybeth sych a phendantaidd na allai byth fod yn berthnasol i fywyd cyfoes.

Hwyrfrydig odiaeth fu Wil i fentro at y fath berson hyd yn oed o ran hwyl; ond wedi dod yno, ni wnai ef adweithio nac yn negyddol nac yn gadarnhaol iddi.

Efallai, fe'i clywais yn honni, y byddai'n rhaid i Gymru fynd fel Iwerddon a cholli'i hiaith cyn y cyffroid hi i adweithio yn erbyn y golled ac i droi at genedlaetholdeb.

Mae'r mwyafrif o dasgau'r ffermwr yng Nghymru'n ddibynnol ar y tywydd, ac ar y modd mae'r tywydd yn adweithio gyda thirwedd a phridd.