Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

adwy

adwy

Pan fyddid yn sôn am ei gampau'n gwagio siopau o'u nwyddau oll byddai hithau'n dal dano'n dweud, 'Wel, ddaru o ladd neb, yn naddo?' A phan ddaru o ladd Huws Parsli am y tro cyntaf dyma hi i'r adwy eto: 'Toedd dda gen i mo'r hen gingroen afiach beth bynnag.

Ffrwyth ymchwil mewn maes hollol wahanol ddaeth â resait llwyddiannus i'r adwy.

Calondid oedd clywed fod Cyngor Sir Gwynedd wedi dod i'r adwy mewn awr o argyfwng i gynghori'r Swyddfa Gymreig.

Ond taw faint o gopi%wyr a ddaeth i lanw'r adwy, amhosibl oedd iddynt gyflenwi'r holl alwadau a glywid am lyfrau - yn enwedig am destunau crefyddol.

"Ydych chi'n cofio'n union pa noson yng Ngorffennaf y cawsoch chi'r freuddwyd?" Daeth ei wraig i'r adwy.

Wrth agor yr iet, a throedio trwy'r stecs sy ym mhob adwy, maen clo ar waith y dydd oedd canfod ymysg olion mynd a dod ôl olaf y fuwch ddi-ras na ddychwelai mwy.

Yn anffodus bun rhaid i Geraint Roberts ai Fand ohirio ei ymddangosiad yn yr Wyl eleni ac ar fyr rybudd daeth Bedwyr Hughes i'r adwy.

Wrth gerddad i mewn drwy'r adwy ym muria uchel danheddog yr ysbyty, dyna pryd y troai'i meddwl tuag at 'i gwaith cyflog.

Cyn i Alun Michael gael cyfle i ateb neidiodd Helen Mary Jones i'r adwy.

Byddai'n cychwyn trwy cae dan tŷ, trwy'r adwy o'r cae bach ac ar draws cae mawr.

Fel yr oedd teimladau'n poethi, a pherygl i'r Rhyddfrydwyr dynnu'n ôl, daeth yr Henadur William George i'r adwy ac apelio at ei blaid ail ystyried a rhoi'r Ymgyrch, fel yr awgrymasai Plaid Cymru, yn llaw mudiad unol nad oedd yn rhwym wrth na phlaid nac enwad, cyngor na mudiad o unrhyw fath.

Pa fedal fyddai fyth yn ddigon cymwys ac addas i hongian o gylch ei gwddf fel teyrnged i'w dewrder yn sefyll yn yr adwy i'n hatal ni y gwþ þ ie, y rhai cryfaf, i fod þ rhag llwyr golli ffydd a mynd ar ddisberod gyda'r genfaint foch?

Byddai'r gweithwyr yn helpu o bryd i'w gilydd, yn cywiro neu'n dod i'r adwy pan fyddai hi'n oedi, yn ceisio meddwl am y term technegol cywir.

Daeth cymydog i'r drws ac meddai â'i anadl yn fyr o frysio yma, "Mae dy adwy isaf yn agored cofia ac mae'r defaid oddi yma i Pen Llyn acw ac yn y ffarm arall." Gellwch ddychmygu'r llifeiriant geiriau a ddaeth yn sgîl y sylw, "Pwy sy'n gyfrifol am hyn tybed?" Yn sydyn clywem sŵn traed yn llusgo am y t^y.

Daeth y ddau i'r adwy ar ddau amgylchiad mawr yn fy mywyd.

Roedd gan BBC Cymru drefnu sylweddol i'w wneud i achub y digwyddiad wedi i'r hyrwyddwr dynnu'n ôl y diwrnod cyn y cyngerdd, ond dangosodd y gallai tîm cyfan BBC Cymru ymateb i'r argyfwng, fel y gwnaeth Dennis O'Neill a gamodd i'r adwy ar y funud olaf.

Mae'n rhaid mai gair cyffredin Cymraeg yn golygu 'adwy, bwlch' oedd bala gynt.

Oherwydd am unwaith mi fydd diffyg dychymyg Tref yn dod i'r adwy yn y man.

Rhoes gyfeiriad newydd i'r ymgyrch genedlaethol a gwae ni os barnwn y gellir cau'r adwy ar y cyfeiriad hwnnw yn y cyfnod cyfansoddiadol-gysurus hwn o Ddeddf Iaith newydd a Senedd i Gymru bosibl.