Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

aeddfedrwydd

aeddfedrwydd

Am gymal neu ddau dangosodd fymryn o nerfusrwydd yna aeth rhagddo i ganu'n hyfryd, gydag aeddfedrwydd tu hwnt i'w oed.

Roedd hwn yn berfformiad ofnadwy oedd yn sgrechian am ronyn o aeddfedrwydd a safon i gael gwared ar dîm ddylse fod wedi cael coten.

Dyfais i ennill profiad ac aeddfedrwydd llwyfan oedd y ddrama fer.

Roedd Heledd yn un o'r bobl mwyaf aeddfed y gwn i amdanyn nhw - rhy aeddfed, efallai, i allu amgyffred na fyddai pawb yn ymddwyn gyda'r un aeddfedrwydd a hi.

Erys gwledd i'r synhwyrau o'n blaenau wrth gerdded tua phen pella'r trwyn, ffresni tyfiant ifanc y gwanwyn, aeddfedrwydd cynnes y rhedyn a'r eithin ar bnawn o haf, lliwiau machlud tanbaid yr hydref ac awyrgylch gysglyd y gaeaf yn aros y deffro cyfarwydd, gyfareddol.

Maen nhw'n cydweithio'n rhagorol gyda'i gilydd ac, yn sicr, mae'r caneuon newydd (er nad yw pedair ohonyn nhw mor newydd â hynny erbyn hyn) yn dangos cryn aeddfedrwydd a rhyw fymryn o newid mewn naws.

Arferai hawlio ym mlynyddoedd ei aeddfedrwydd nad oedd yn gwneud dim ond dilyn yr hen dadau Methodistaidd yr oedd cenhedlaeth ei dad wedi gwyro oddi wrth eu dysgeidiaeth.

Gwêl y cyfarwydd ar un waith mai aeddfedrwydd benthyg neu etifeddol sydd iddynt, trefn gaboledig y Piwritaniaid o'r cyfnod cynt.

nhermau aeddfedrwydd yn unig.