Bydd y plentyn yn sylweddoli hefyd, gydag amser, bod yr hyn sy'n gymeradwy yn newid fel y bydd yn aeddfedu ac yn datblygu fel defnyddiwr iaith wrth i'r rhai sy'n ymwneud ag ef deilwrio eu disgwyliadau yn ôl yr hyn a wyddant am natur eu hyfedrwydd.
Swn y fagnel ar y bryniau, Gwaed y dewr ar dwrf y rhos, Angau'n casglu ei ysgubau Cyn aeddfedu gyda'r nos.
Fe ddywedwyd wrthym flwyddyn yn ôl y byddai'r Cynulliad yn 'aeddfedu i ddwieithrwydd' ond y gwrthwyneb sy'n wir.
Aeddfedu'r oedd y cynlluniau, er hynny.
Bydd y rhain wedi aeddfedu ac wedi cael eu tynnu o'r ddaear cyn i'r ysgewyll ddatblygu i'w llawn dwf.
Ni allent aeddfedu ond mewn fframwaith cymdeithas â'i gwerthoedd a'i thraddodiadau ei hun.
Nid afresymol awgrymu ymhellach y byddai'n datguddio mwy o'i brofiad personol yn ei waith fel yr oedd yn aeddfedu fel nofelydd ac yntau o'r dechrau yn sefyll y tu allan i feddwl 'swyddogol' ei gymdeithas ac yn pwyso a mesur y meddwl hwnnw yng ngoleuni ei brofiad ei hun.
Yr oedd yr haul yn melynu'r gwenith, yn aeddfedu'r barlys, y siprys a'r ceirch gwndwn.
Beth bynnag am hynny, tywydd oer yr hydref sydd yn atal aeddfedu'r mwyar hwyr, ond cyn hynny ceir dau benllanw o ymborthi arnynt.
Blas sur sydd i ffrwythau heb aeddfedu, am eu bod yn cynnwys asid.Er enghraifft mae asid malig mewn afalau surion, ac asid tartarig mewn grawnwin.Asid sitrig sydd mewn lemonau, a dyna pam y gelwir ffrwythau megis lemonau a leim yn ffrwythau sitrig.