Wrth fyfyrio ar Gymru y cynhyrchwyd Yn y Wlad, Er mwyn Cymru, a'r aeddfetaf a'r mwyaf hudolus o'i holl waith, Cartrefi Cymru.
NId ysgolhaig a bardd yn unig oedd John Morris-Jones, ond athro hyd fêr ei esgyrn, a threuliodd ei flynyddoedd aeddfetaf yn dysgu i genedl y Cymry, trwy'r Eisteddfod a'r wasg, sut i farddoni.