Fe/ ddaeth haul y gwanwyn â gwên i bob un o gefnogwyr brwd y Strade a holl aelode'r tîm fel ei gilydd, yn arbennig felly o gofio i bedwarawd o Glwb Llanelli grwydro oddi ar y llwybr cul, ac ymuno â Chlwb Caerdydd yn ystod diwedd y chwedege--Robert Morgan, D.
Fel y clywe aelode o Glwb Caerdydd am y paratoi rhyfeddol yma, daethant i'r casgliad mai adlewyrchiad o banic ar y Strade oedd hyn i gyd, a bod hyn yn cadarnhau eu cryfder nhw fel tîm oedd yn siwr o fuddugoliaeth.
Roeddwn i yn un o aelode hyna'r garfan ac eto down i 'rioed wedi chwarae ar yr un maes â Mike England, er fy mod wedi gwybod amdano fel un o amddiffynwyr gore'r wlad yn ei ddydd.