Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

aelwyd

aelwyd

Gallasai adrodd yn llawen ambell dro, ac mi'r oedd yn dysgu partin aelwyd erbyn pob amgylchiad a weithiau yn gwadd y cymdogion i ganu efo ni.

Daeth aelwyd groesawgar Ceri yn ganolbwynt pwysig i'r offeiriaid llengar.

Ffordd o dalu diolch i'r rhieni am ei gynnwys ar yr aelwyd, a hynny bellach bron fel mab.

Yn ystod y beirniadu yn Yr Aelwyd, cafwyd amser hynod o ddiddorol yn gwrando ar Joyce Jones yn son am wneud sampleri ac yn arddangos ei gwaith.

Dydi rhywun ddim isio codi cnecs yn barhaus ar yr aelwyd; rhwbath am heddwch ydi hi fel rheol, yntê?

Yn y gyfrol hon ceir atgofion Eifion Roberts am Gefn Brith a'r cyffiniau, bro beirdd megis Edward Morris, Perthillwydion, a Jac Glan-y-gors, Thomas Jones, Bryn Du (Cerrigelltgwm Isa, Ysbyty Ifan, wedi hynny), a Tomi Jones, Cernioge Bach ac Aelwyd Brys.

Sonia ymhellach am ei ddiffyg cefndir llenyddol Cymraeg ar yr aelwyd, er bod yno ddigon o lyfrau - rhai meddygol a chrefyddol gan mwyaf.

Mae cael babi ar yr aelwyd yn gwneud iddyn nhw ymddangos yfel pe byddan nhw'n bobol go iawn.

Nid tafodiaith y Cei oedd tafodiaith yr aelwyd a chlywn gryn dipyn o Welsh English y Rhondda o enau fy mam a 'nhad.

Yr oedd dau o blant eraill ar yr aelwyd erbyn y Nadolig nesaf a ddaw i'm cof, ac fel pob bore Nadolig lle mae plant bydd helynt a stŵr a llanastr yn dilyn ymweliad Siôn Corn.

'Roedd rhai rhannau o awdl Sarnicol yn broffwydol, yn enwedig yr englyn toddaid sy'n sôn am 'ddewrion y gad' yn 'Mynd i ryfel' nes bod 'chwerw wylo' ar aml i aelwyd drwy Gymru.

Pa wendidau bynnag a ganfyddid yn ei berthynas â'i gydnabod, ei statws ar ei aelwyd ei hun ac adlewyrchiad ohono o fewn ei gymdogaeth a gyfrifai fwyaf.

Fe gefais fy magu ar aelwyd grefyddol, lle na chrybwyllwyd erioed y gair 'ofergoelion', eto wrth edrych yn ôl gwelaf fod fy mhlentyndod yn llawn o ddywediadau ac arferion oedd yn ymylu ar fod yn ofergoelus.

Ysgymunwyd hi hefyd ar ambell aelwyd, ac mewn llawer i ysgol.

Yn ofer y disgwyliai'r un Dirprwywr i'r aelwyd honno wadu'r famiaith:

Y peuoedd traddodiadol i'r Gymraeg oedd yr aelwyd, y teulu ymestynnol, y gymdogaeth, y gymuned, y capel neu'r eglwys a mannau gwaith.

Cododd Elystan y corff eiddil yn dyner a'i roi i orffwys ar wely o beiswyn gerllaw'r pentwr coed wrth yr aelwyd.

Yn ystod cyfnod yr adeiladu cynhaliwyd Ysgol Sul Cefn Brith yn ysgubor Aelwyd Brys a phob gwasanaeth arall yn Ysgol y Cyngor, Glasfryn.

Honno yw'r aelwyd sy'n cyfrif; yr aelwyd sy'n sefyll yn ddigryn ar gonglfeini teyrngarwch a diolchgarwch.

'Roedd aelwyd Charles yn fan cyfarfod i gariadon!

Nid oes gwadu, serch hynny, apêl barhaol y cartref a'r aelwyd werinol a'u gafael ar y sentimentau gwâr.

Ar aelwyd Ty'r Ysgol, Coedybryn, mi gefais y fraint droeon o gael trafod gydag ef, ei farddoniaeth ei hun, a barddoniaeth beirdd eraill.

O holl amrywiaeth taclau'r gwareiddiad newydd, o raselydd i beiriannau golchi, mae'n debyg mai'r teledu ddaeth a'r chwyldro i'w anterth wrthi ganolbwynt yr aelwyd symud o'r lle tan, gyda'r gadair freichiau a'r setl a'r soffa yn gylch o'i gwmpas a phawb yn ei wynebu, i'r bocs yn y gornel, a phawb yn eistedd yn rhes a'u hochrau at y tan a'u hwynebau at y sgrin.

Ni fydd yn ffynnu os bydd ei defnydd ar yr aelwyd ac yn y gymuned yn dal i leihau, hyd yn oed os bydd nifer y siaradwyr newydd a ddaw o'n hysgolion yn cynyddu.

Bendith arnoch ar eich aelwyd newydd a brysiwch yma i Foelfre i'n gwled!

Pryder ynglyn â chrebachu'r iaith yn y cadarnleoedd, ei dirywiad fel iaith gyntaf ar yr aelwyd, ac yn y defnydd a wneir ohoni mewn cyd-destunau 'traddodiadol'; gobaith ynghylch y cynnydd yn niferoedd y bobl ifanc sy'n ei siarad, y cynnydd yn y defnydd a wneir ohoni mewn cyd-destunau newydd ac yn y cyfleoedd newydd i'w defnyddio.

Byw allan o fag fydde'r chwaraewyr ac, fel sipsiwn, 'newid aelwyd bob yn eilddydd'; a hynny heb sôn am y rhes o dderbyniade a chyfarfodydd swyddogol y bydde'n rhaid mynd iddyn nhw ac, wrth gwrs, y gême y bydde'n rhaid eu chware.

Ond unwaith yr aeth y bwthyn-bach-to-gwellt a'i ben iddo, medrodd dadrithiad dreiddio o'r diwedd, yn swyddogol felly, i aelwyd yr awen Gymreig.

Dyma rai dadleuon o blaid credu bod yr ymadrodd "nid yw yn gaeth" yn golygu mwy na rhyddhau o gyfrifoldeb darparu aelwyd.

Canlyniad hynny fu mai Saesneg oedd iaith ei aelwyd, a maged ei blant yn ddi-Gymraeg.

Cymraeg oedd iaith pob aelwyd ac amryw ohonynt a'u gwybodaeth o'r Saesneg yn gyfyngedig i ddau air yn unig, 'Yes' a 'No'.

O'i chymharu ag Agra, roedd stesion Delhi'n edrych yn lan pan gyrhaeddon ni'n ol heno, a'r YMCA., pan gyrhaeddais hwnnw ar ol taith wallgof trwy draffig ardal yr orsaf mewn rickshaw-peiriannol, yn ddigon croesawgar yr olwg - ymron yn aelwyd gynnes gyfarwydd.

Gwasanaethodd hefyd ar bwyllgor "Aelwyd" Caernarfon.

Roedd yr aelwyd honno wedi'i mynych gydnabod yn bwerdy daioni'r genedl ers hir amser gan grefyddwyr, gwleidyddion, llywyddion eisteddfodau, areithwyr Dygwyl Dewi, dirwestwyr, beirdd, stori%wyr, cerddorion, artistiaid a llu o amryfal gyfranwyr a fwydai bapurau a chylchgronau Oes Victoria.

Mae dweud fod Euros yn fab y Mans, er enghraifft, yn rhoi'r argraff ei fod wedi cael rhyw fagwraeth gysgodol a breiniol ar aelwyd na phrofodd brinder o hanfodion byw, a'i fod wedi cael pob rhwyddineb i ddilyn ei yrfa addysgol o'r cychwyn cyntaf.

Hyhi, 'Iaith anwyl hen fythynod', 'Iaith dêg lân y bwth diglod', oedd gwarant gwiwdeb 'Aelwyd y Cymro'.

Wrth gwrs, ar yr aelwyd rhaid oedd cyfeirio at bob un yn barchus wrth ei gyfenw.

Fodd bynnag, 'rydw i am geisio ateb cwestiynau sydd wedi eu gofyn lawer o weithiau i mi - "Ydi dy dad yn un mor ddoniol ar yr aelwyd ag ydi o yn gyhoeddus?" Neu bellach wrth gwrs "Oedd o?" (Ydi mae'n anodd dweud 'Oedd o?' am nhad.

Ni allai'r alltud anghofio 'aelwyd y bwthyn gwyn' pes mynnai; roedd iddo'n 'bur haddef anhun a breuddwyd' ac o sylweddoli ei ddyled iddi, 'O ddedwydd aelwyd!', rhaid oedd ymdynghedu i ailgodi ei hallor ac addoli eu Duw 'mewn dieithr oror'.

Ar ddiwedd pob wythnos dewisir un y mae'r gweddill yn ei ddrwglecio i'w droi o'r aelwyd.

Mi fydd rhai yn dal i ddadlau bod canu cerdd dant bellach yn draddodiad hen ffasiwn ond mae'n denu pobol ifanc fel aelodau côr cerdd dant Aelwyd Pantycelyn yn Aberystwyth.

Y mae David Ellis yn sôn yn hiraethus amdano mewn llythyr a anfonwyd ganddo (lai na deufis cyn iddo ddiflannu) at Tomi Jones, Cernioge Bach (Aelwyd Brys, Cefn Brith wedi hynny).

Fel y garafan ben bore, y mae dicter yn dal i fudlosgi ym mynwes rhai o'r Gwyddelod di-aelwyd hyn.

Gwelai blant yn chwarae ar yr aelwyd, a theidiau a neiniau'n dod i aros.

Ni chawsent glywed rhyw lawer am yr aelwydydd hynny ar hyd a lled y wlad a gywasgodd y beirdd yn un aelwyd ddifai gynddelwig lle ffynnai rhinwedd a moes.

Aelwyd oedd hi, yn anffodus, lle credid bod Dr John Williams, Brynsiencyn a Dr Thomas Charles Williams yn wŷr perffaith.

Gadawyd fy mam ar ol ar aelwyd y Thomasiaid am fod ei thad yn ei beio hi am yr amser difrifol o galed a gawsai ei mam wrth ei geni hi.

Ni freuddwydiodd erioed y gorchmynnai neb ef i adael ei aelwyd, cerdded o'r tū fu'n eiddo i'w deulu ers cenedlaethau, a throi cefn am byth ar y tir a'i noddodd.

Tra gwahanol i lysoedd brenhinoedd yr Oesoedd Canol ydoedd natur y llys Tuduraidd; tyfodd hwnnw yn aelwyd genedlaethol ac i fod yn gymhlethdod o ystafelloedd neu siambrau ysblennydd a'r brenin yn ganolbwynt yr olygfa odidog a'r mynych seremoniau.

Yn ei awdl clywir eto hiraeth yr alltud ystrydebol am yr aelwyd a'i moldiodd.

Wedi tymor dyfal o weini ar blant gofidiau, bydded bendith ar aelwyd y meddyg mwyn yng nghyfnod yr hamdden a haedda.

Dewiswyd John Jones, Perthillwydion; Cadwaladr Evan Roberts, Ty'n y Gilfach, a Thomas Owen Jones, Aelwyd Brys.

'Fyddwn i byth yn aros tan y diwedd yn yr ymdrechion hunanymwybodol hynny i 'gynnau tan ar hen aelwyd'.

'Naddo', ebe yntau, 'roeddynt yn mynd yn uchel', gan dywallt cynnwys y sach ar yr aelwyd - hen lyfrau Groeg, Lladin, Hebraeg, etc.

Hyd fyth y bydd gwacter yng Nglangors-fach, a'r aelwyd a fydd adfail yng Nglangors-fach; mieri ac ysgall a drain lle bu mawredd a'r llwybrau yn lleoedd y dylluan.

yn Yr Aelwyd, Caernarfon.

Mae pŵer sumbolig yr aelwyd werinol yn gyrru drwy gerddi'r prifeirdd eisteddfodol yn bur gyson.

Saesneg oedd iaith fy ffrindiau i gyd, hyd yn oed y rhai a âi i'r un capel â mi; Saesneg a siaradwn bob amser â'm brawd am chwaer; yn wir, Saesneg oedd iaith yr aelwyd i raddau helaeth iawn, yn anorfod felly, gan fod yno gymaint o fynd a dod a chynifer o'n hymwelwyr yn Saeson neu'n dramorwyr.

Rhaid cofio mai mab i chwarelwr ydoedd, wedi ei fagu ymysg teuluoedd chwarelwyr ac yn gwybod o brofiad am erwinder y llafurio'n y graig ac am gyndynrwydd yr ymddrech ar yr aelwyd i fyw gyda thipyn o urddas a hunan-barch.

Ond parhau i redeg y mae dŵr grisialaidd yr hen bistylloedd: Pistyll Sybil, Pistyll Aelwyd Brys, a Phistyll Plâs.

A hefyd, "Sut le oedd ar eich aelwyd chi?" Yr ateb i'r cwestiwn cyntaf yn syml iawn - na!

Cofia hwiangerddi'r fam 'Ymhabell wen fy mebyd' a gwres 'Aelwyd fach anwyliaid fu/ At un tân, gynt yn tynnu!' Dychwelyd o'i grwydro a chael yr hen le yn furddun ger y môr a' i gyrrodd, o'r diwedd, i'r wlad bell lle ailgyfannir yr aelwyd gynt gan atgofion a dychmygion.

Ar yr aelwyd honno fe fydd ei dad yn tragwyddol gadw dyletswydd 'yn ei "un" iaith' ac ni ddaw'r un llanw i ddiffodd 'Tân y Nef' na dryllio'r allor:

Nid oes garreg yn aros o aelwyd gysurus y 'Crown', ac nid oes ond atgof yn unig am unrhyw sgwrs a fu yno.

Felly mae'n amlwg fod y gadael hwn yn golygu o leiaf bod y Cristion yn rhydd o'r rhwymedigaeth i ddarparu gwely a bwyd, neu aelwyd ar gyfer ei gymar.

Beth ond 'magwrfa lwyd/ Anfarwolion fu'r aelwyd' a'r Gymraeg arni'n ben.

Erbyn heddiw ychydig iawn o bobl sy'n teimlo cyfrifoldeb y tu hwnt i ffiniau'r teulu ar yr aelwyd.

A chofiwch ei fod yntau'n un o Ddifrycheulyd Saint aelwyd Ceiriog, Mynydd Nefyn gynt.

Pryd ddiwethaf (os erioed) y gwelsoch chi'ch mamau yn pobi bara (erbyn hyn daeth pobi gartref yn orchwyl ymwybodol, nid yn anghenraid) ac yn treulio rhan dda o'r dydd yn glanhau'r tŷ gan flacledio'r lle tân a golchi'r aelwyd?

Gallai fy nhad, Joseph Davies, siarad Cymraeg - 'Rhondda Welsh', fel y dywedai (heb falchder, gwaetha'r modd) - ond ni siaradai Gymraeg ar yr aelwyd gan mai di-Gymraeg oedd fy mam.

Cefais fy magu ar aelwyd ac mewn ardal lle roedd stôr o straeon celwydd golau a nifer o grefftwyr yn y maes.