Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

aelwydydd

aelwydydd

Llwyddodd BBC Cymru i ddod âr digwyddiadau hyn oll yn fyw i aelwydydd pobl Cymru.

Y mae rhannau helaeth o'r wlad heb na thrydan na dwr tap o hyd; ar wahân i'r aelwydydd cefnog, mae'r gweddill yn defnyddio glo i goginio, mangl wrth wneud y golch, a'r ciosg ar fin y ffordd os am wneud galwad ffôn.

'Roedd y bardd yn cydnabod oes y 'never had it so good' yng nghanol y pumdegau pan welwyd y pum miliwn o setiau teledu ar aelwydydd Prydain yn dyblu mewn degawd, a phan ddaeth y car yn hanfod yn hytrach nag yn foethusrwydd.

Credai'r hen bobl ei fod yn gwarchod aelwydydd rhag drygioni.

Aelwydydd ac Ail-gartrefi

Iaith ein cartref ydwyt hefyd, Iaith aelwydydd Cymru lân, Yr wyt ti'n gwresogi bywyd Mewn diareb bêr a chân; Hoffwn di - wyt athronyddol - Ond wyt fwy na hyn i ni: Wyt in' calon yn naturiol, Caniad cartref yw dy si.

Ni chawsent glywed rhyw lawer am yr aelwydydd hynny ar hyd a lled y wlad a gywasgodd y beirdd yn un aelwyd ddifai gynddelwig lle ffynnai rhinwedd a moes.

Ond erbyn heddiw daeth tro ar fyd, a daeth nifer o sefydliadau seciwlar i'n cefn gwlad fel Aelwydydd yr Urdd, y Ffermwyr Ifanc a Merched y Wawr.

O ludw'r hen aelwydydd - tywynodd Tanau dros y gwledydd, O bennau'r bryniau beunydd - rhoi cyfrin Oleu fu gwerin y gwael fagwyrydd.

Byddai'r cylchgrawn hwn a gyhoeddid gan enwad bychan yn cyrraedd cartrefi dros bedwar ban y wlad gan gymaint croeso a gawsai'r golygydd eisoes ar aelwydydd Cymru, drwy gyfrwng y radio a'r teledu, fel colofnydd wythnosol Y Cymro, a golygydd papur cenedlaethol yr henoed.

Llwyddodd BBC Cymru i ddod â'r digwyddiadau hyn oll yn fyw i aelwydydd pobl Cymru.