Fodd bynnag, ar hyn gwelais filwyr yn gadael eu paciau ac yn mynd heibio rhyw gornel ac mi euthum innau i edrych i ble'r aent.
A llwyddodd yr Eglwys Bresbyteraidd hithau, â llawenydd, fel y rhai a aent i'r môr mewn llongau a gwneud eu gorchwylion ar ddyfroedd mawr, chwedl y salmydd, i gyrraedd 'i'r hafan a ddymunent'.
gobeithient, trwy redeg ar draws y cae, gyrraedd y safle manteisiol hwn o flaen eu llongau, ac os byddai 'r rheini 'n dal i fynd aent ymlaen at bont trillwyn, a 'r llong gyntaf dan y bont fyddai 'n ennill.
Ar ddiwedd y cwrs llwyddodd i ennill cymeradwyaeth mesuredig yr athro a rybuddiodd y dosbarth i beidio a gwangalonni pan aent i Ffrainc a chlywed y brodorion yn parablu'n mamiaith, a hwythau heb fedru deall odid ddim, gan ei bod yn angenrheidiol treulio tipyn o amser i ymgyfarwyddo a seiniau a rhuthm yr iaith fel y'i seinid yn naturiol gan siaradwyr brodorol.
Ple bynnag yr oedd yr ysbryd yn mynd, yno yr aent hwythau hefyd; ac fe godai'r olwynion i'w canlyn, oherwydd yr oedd ysbryd y creaduriaid yn yr olwynion.
Yno yr aent i siopa ac i drafod busnes ac yr oedd yr hyn a ddigwyddai ym Mhwllheli o ddiddordeb ysol iddynt.
Ar droeon eraill aent am dro i'r pier, yn enwedig os byddai llong yn cyrraedd.
Bob dydd aent heibio ei ffenest a phob dydd gwelai e nhw.
Aent cyn belled â chloddio ffos ac adeiladu rhagfur fel y medrent eu datgysylltu eu hunain oddi wrth aelodau eraill y llwyth.
Aent o gwmpas fesul dwy i berswadio dynion rhag mynychu tafarndai.