Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

aeres

aeres

Yn y diwedd, fe gymodwyd rhwng Morgan ac Evan Meredith gan neb llai na Syr John Wynn o Wedir, y bu priodas ei frawd ieuengaf ag aeres Maesmochnant yn achos effeithiol yr holl helynt, ac am ychydig flynyddoedd fe fu tawelwch cymharol yn Llanrhaeadr, fel y buasai yn ystod blynyddoedd cyntaf trigiant Morgan yno.

Priododd yr Iarll aeres Walter Vaughan a thrwy hynny dod yn berchen llawer o dir ym Mhorth Tywyn.

Ond llawer mwy difrifol na'r ddeubeth hyn oedd fod Evan Meredith yn amau fod i Forgan ran mewn dwyn achos o odineb yn ei erbyn yn llys yr esgob yn Llanelwy, er bod Morgan yn gwadu hynny; a hefyd y ffaith ddiymwad fod Morgan wedi helpu i sicrhay llaw aeres Maesmochnant, un o stadau cyfoethocaf y gymdogaeth, ar gyfer Robert Wynne, mab ei noddwr, Maurice Wynn o Wedir, er bod Edward Morris hefyd a'i lygad arni.