Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

aeth

aeth

Aeth yn ei flaen i sôn am yr angen i baratoi Cymru ar gyfer hunan lywodraeth; siaradodd Fred Jones am yr angen i fynnu gwell triniaeth i'r iaith Gymraeg, a thraddododd Lewis Valentine ychydig eiriau am bwrpas ac amcanion y blaid.

Aeth hi ag ef i'r gegin a gellir dychmygu syndod y gŵr parchus, ac yn wir ei sioc, pan ddangosodd y wraig iddo y gwydr deuben a ddefnyddir i amseru berwi wy - ond un mwy lawer na hynny - yn llawn o lwch llwyd.

Aeth Y Barri ymlaen i ennill y gem 2 - 1.

Fe ddaeth gwth o wynt nerthol o rywle ac aeth yr awyr yn dywyll.

Aeth y cwmni i mewn o'n golwg, a throisom ninnau ein tri a mynd i lawr i'r neuadd.

Aeth gweddill y daith yn hwylus gan gynnwys paned tua hanner ffordd.

Er na fu'r gyfres honno yn llwyddiant mawr, aeth Ioan ymlaen i ymddangos yn Hornblower a Titanic ymysyg pethau eraill.

aeth trwy ei feddwl y gallai gerdded i drillwyn ucha os na na, a chael tractor samuel preis i 'w symud i ochr y ffordd.

Aeth ei ergyd heibio'r postyn.

Aeth fy ngheg yn hollol sych.

Aeth canrifoedd heibio er pan ddangosodd Mair ei Mab bychan i deithwyr dieithr o wlad bell.

Ac yn raddol, fel y datblygai'r ddealltwriaeth hon, aeth yn agosach at y pwynt lle gallai droi'n ôl at ei brofiad cynnar, a'r bywyd clos, cyflawn, yr oedd yn ei weld erbyn hyn trwy lygad plentyn a llygad dyn.

Aeth yn ei blaen i lofft yr hogiau, rhag ofn.

Fe aeth rhai mor bell a dweud fod yna berthynas, gan fod y ddau deulu'n arddel yr un cyfenw.

Gwadai Mary ei gyhuddiad a bu rhagor o ffraeo rhyngddynt, ac aeth hi a'r plant at ei mam unwaith yn rhagor.

Ac ar y tren o Fangor yr aeth a'i fag yn gadarn yn ei law.

Am gymal neu ddau dangosodd fymryn o nerfusrwydd yna aeth rhagddo i ganu'n hyfryd, gydag aeddfedrwydd tu hwnt i'w oed.

Ar ôl cyfnod o ddala, aeth Phil i weithio ffwrnais pan oedd tuag un ar bymtheg mlwydd oed, a dyna'r gwaith caletaf yn y felin bryd hynny.

Cydiodd Ifor yn y bwced ac aeth at y tap i'r sied ddefaid.

Fe aeth Richard Owen i weddio fel y medrai o dan y dwyfol deimlad, ac yn ei ddagrau.

Aeth i Brifysgol Loughborough, gan raddio yn y ddrama.

Aeth fy chwaer i fyw i Fethesda ar ôl priodi, a'r Nadolig cyntaf i ni fod hebddi cafodd Mam y ffliw neu rywbeth, bu'n wael iawn, a gorfu iddi aros yn ei gwely.

Fyddai Roci byth yn crwydro o'i gynefin heb gwmni ei ast ffyddlon, ac aeth a hi i mewn i dy'r cymydog a'i sodro wrth ei gadair o flaen y tan.

'Esgusodwch fi, Mister Arlywydd,' meddai un arall o'r cynorthwywyr dan ei anadl, 'ond Mrs Thatcher yw'r ddynes hon, ac nid Mrs Gandhi.' Fe wn i hynny'n iawn,' meddai Brezhnev yn ddiamynedd, 'ond Croeso i'r Undeb Sofietaidd, Mrs Gandhi yw'r geiriau sy wedi eu sgrifennu ar y darn papur yma o'm blaen i.' Mae'r stori yn ddameg berffaith o'r hyn y mae'r bobl yn ei farnu a aeth o'i le yn hanes yr Undeb Sofietaidd.

A chynigiodd yr un gwr ddau swUt i minnau os awn, dywedais wrtho yr awn; a rhedais o heol y Bont Pawr oddi amgylch yr HaU yng nghanol y dref yn noethlyrnun; a dychrynodd rhyw wraig feichiog wrth fy ngweld, nes yr aeth yn sal.

A'r gŵr a aeth heibio iddi ganwaith heb sylwi arni gan fod ei ffroenau mor uchel, a'i feddwl yn barhaol ar ei filiwn nesaf A digwyddodd rhyw ddydd, iddo adael ei swyddfa a cherdded i lawr y grisiau.

Aeth yn ei flaen i ddarllen mwy o deitlau'r llyfrau.

Aeth y miwsig a'r goleuadau a'r rhialtwch i'w phen fel gwin.

Er hynny, y tîm badminton yn unig a aeth i'r chwaraeon cenedlaethol yn Y Drenewydd.

Be bydaet ti yn aros am flwyddyn eto i edrych sut y bydde pethe?' ' Siaradai'n dyner a pherswadiol; ond aeth ei eiriau fel brath i'm calon.

Gwnaed Ynot Benn yn aelod o Anrhydeddus Urdd y Llwynogod pan aeth y ganolfan ar dan ddwywaith nes bod rhaid atgyweirio ac ail-adeiladu go helaeth.

Aeth Stacey i Gaerdydd ac yn fuan iawn 'roedd hi'n caru gyda Cai.

Ac o ddechrau mis Awst, aeth trafnidiaeth Llundain yn llonydd pan ddilynodd y gweithwyr arweiniad Ben Tillett.

Aeth John Griffith Williams a ni i gyfnod Owain Glyndwr yn ei nofel swmpus Betws Hirfaen.

Aeth i lawr y llwybr troellog at lan yr afon a thoc, arhosodd wrth hen foncyff derw gorweddog gan ddringo'n araf a gofalus i'w ben.

Aeth defnyddio Saesneg ym mhob cyfathrebu swyddogol yn gyfrwng i atgoffa'r Cymry o genhedlaeth i genhedlaeth na allent fwynhau ffafr y wladwriaeth ond i'r graddau yr oeddent yn dirmygu'r Gymraeg.

Aeth cant o feddyliau drwy ei galon.

Aeth yr awyren hebddo ac wedi ail-bacio'i fagiau roedd ar ei ffordd i dde-ddwyrain Twrci.

Dywedodd un tyst wrtho fod y Cymry o'r bryniau a aeth i ymuno gyda Siartwyr Frost yn credu mai cyrchu Llundain oedd eu nod, ymladd yno un frwydr fawr ac ennill teyrnas.

Cofiaf gael un 'wers' trwy ddysgu tôn a geiriau cân werin yn dechrau 'Pegi Bach a aeth i olchi', a'r drychineb ofnadwy iddi orfod mynd adre i nôl y sebon a chanfod pan ddychwelodd fod y dillad wedi diflannu gyda'r llif.

Aeth amryw o'r hogiau i lawr yno.

Ar ôl rhybudd amserol a difloesgni Mr Saunders Lewis ynglyn â thynged yr iaith, fe aeth Cymdeithas yr Iaith ati i fynnu i'r Gymraeg ei phriod hawliau yn ei gwlad ei hun, ac ni wnâi ond y crintach warafun i'r mudiad hwnnw y clod am ennill yn ôl i'r iaith beth o'r bri y mae'n ei fwynhau heddiw.

Aeth tatw yn brin a chododd eu pris i'r entrychion ond, er cyn lleied y cnwd, honno oedd y flwyddyn fwyaf broffidiol i'r ffermwyr tyfu tatw.

Aeth pob math o bethau trwy ei feddwl.

Aeth y mesur drwy'r Senedd yn rhwydd.

Er gwaethaf ofnau Mari aeth yr wythnos rhagddi yn weddol ddihelynt a Robin, ar Iol ei ymateb byrbwyll cyntaf, wedi ymgymryd yn ddigon llawen - diddanu Llio fach a'r bechgyn bob gyda'r nos.

Aeth i swatio yn ei gwt gan wneud sŵn crio drwy'r amser.

Aeth e nôl i'w gornel a daeth e mâs i'r rownd olaf.

Fel yr aeth yr ugeiniau yn eu blaen taflwyd cannoedd o filoedd ar y dol.

Cafodd lond bol ar hyn, ac aeth yn ôl i'r car a chyfnewid y gêr plu am gêr pysgota gwaelod.

Gwaeddodd ar y dyn oedd yn canlyn ceffyl: "Tyrd â'r ceffyl i symud rhain!" Aeth hwnnw i'r stabl oedd yn weddol agos, ac yna dod yn ei ôl heb y ceffyl.

Aeth tua munud o ddistawrwydd heibio, ac ochneidiodd Morfudd mewn rhyddhad.

Aeth pethau'n wyllt wallgof ar ôl hynny.

Ac yn ei blaen yr aeth â'i brwydr, gan ymweld yn gyson â Lewis, a'i gael yn anobeithio ac yn fwyfwy chwerw.

"Ble'r aeth eira llynedd?" fydd Mam yn ei ddweud pan fydd y gacen siocled wedi diflannu i gyd a neb yn gwybod i ble!' 'Ie,' torrodd Delwyn ar fy nhraws a "Caws o fola ci% fydd hi'n ei ddweud pan ofynna i iddi am arian i brynu hufen iâ, ac addo'i thalu'n ôl yr wythnos wedyn.'

Blinodd Wiliam feddwl, ac aeth i gysgu.

Ddydd Gwener diwetha', fe aeth tri o ohebwyr Golwg i mewn i dri ysbyty mewn gwahanol rannau o Gymru a cheisio cyrraedd wardiau'r babanod.

Aeth trigolion y pentrefi gwasgaredig a'r ffermydd pellennig i lawr i'r dref i drwst y ffair.

Fe allwch chi eu gollwng nhw'n rhydd nawr.' Heb betruso am eiliad aeth y cwn yn syth at y parsel brown mawr.

Cafodd hyd i un bocsaid o luniau ac aeth drwyddo'n eiddgar.

daeth ei ddawn yn y cyfeiriad yma i sylw awdurdodau'r coleg, ac felly, pan aeth y swydd honno yn wag, fe'i penodwyd hefyd yn athro athroniaeth naturiol ", neu ffiseg, fel yr adwaenwn ni y pwnc.

I dref y Gaiman yr aeth y teulu y tro hyn, i shed yn perthyn i "Cymdeithas Cymreig Dyrni%.

Anfonwyd Quaboos i Loegr i dderbyn ei addysg ac aeth yn ei flaen i Rydychen lle graddiodd yn anrhydeddus iawn.

Dyna fu'n gyfrifol fod un brawd wedi cael clod am redeg "hanner can milltir" at y teliffon i alw'r frigâd pan aeth ei dy ar dân.

Aeth y dydd yn ei flaen ym Mhant Llwynog a phob un yn mynd i'w ffordd ei hun.

Efallai wir fod y ffaith nad yw ein cymunedau Cymraeg wedi diflannu'n llwyr yn destun clod i ymgyrchwyr a aeth ati wedi 1984 i greu polisiau iaith newydd yn ein hysgolion, ym myd tai a chynllunio ac a greodd hyder newydd o ganlyniad i'r ymgyrchu.

ar ôl iddyn nhw orffen eu pryd aeth miguel a debra i ddawnsio.

Aeth un ohonynt â'i gariad oddi arno, morwyn fach a garai ond yr ofnai siarad â hi.

." Aeth yn fud.

Aeth hi i fyw wedyn i Bantachddu at ei gŵr.

Aeth at eu hathrawes a siaradodd â hi am ychydig, mewn Saesneg na ddeallent.

Fel y cyfeiria yn y rhagair, mae i Ystad y Goron gefndir o fil o flynyddoeddt a phan gollodd Cymru ei hanibyniaeth yn 1282 aeth darnau ohoni yn rhan o'r Ystad.

Aeth y bugail a'r cŵn ati'n orffwyll i gasglu'r defaid yngh d.

Aeth at y Chwaer i glywed hanes y nos a'r bore a chael 'i chyfarwyddo.

Aeth y gwyliau yn rhy gyflym a daeth yn amser gweithio eto.

Aeth yn oer drosti.

Aeth yn gynt ac yn gynt.

Godam oedd ei enw ac mi aeth o mewn tair llong ar ddeg o Rhos on Sea.

Aeth Mrs Williams allan i ddweud yr hanes wrth Harry Allen yn ei siop flodau yr ochr arall i'r stryd.

Ac aeth hen rigymau chwarae fel, 'Beth ydi Tŷ bach haearn, drws yn ei dalcan, Buwch goch i mewn, buwch ddu allan?'

Aeth rhywbeth o'i le .

Dwynwen ni ludd odineb, Diwair iawn, dioer i neb; Aeth i Landdwyn at Ddwynwen Lawer gūr o alar Gwen.

Aeth Algis Geniusas â ni i fynwent uwchlaw'r hen ddinas yn Vilnius, heibio i'r tai ble'r oedd cŵn bach y drefn gomiwnyddol wedi arfer byw, i fyny y tu hwnt i'r fynwent swyddogol lle'r oedd pwysigion y sustem Sofietaidd yn gorwedd dan eu marmor trwm, draw i fryncyn bychan lle'r oedd cyrff y gwladgarwyr i gyd.

Gall crefydd fod yn Foslemiaeth, neu'n Fwdi%aeth, neu'n Gristionoigaeth, ond gall hefyd fod yn Sosialaeth neu Genedlaetholdeb neu hyd yn oed ni ein hunain.

ar ôl concro ffrainc, aeth ymlaen i'r eidal, ac o fewn chwe mis yr oedd wedi eu concro hwythau ; yno derbyniodd urdd st.

Anghydffurfwyr pybyr oedd y rhan fwyaf o'r ymfudwyr o Gymru, a buan yr aeth y gwahanol enwadau ati i godi capeli a fyddai'n ganolfannau i'w gweithgareddau.

Aeth Hridesh ac Indra, un o seiri ifainc y gweithdy, i

Aeth Badshah at J. W. Roberts i Sylhet i ddweud fod Nolini, un o'r genethod a fagwyd gan Pengwern, yn honni ei bod hi, wrth basio'r ystafell ymolchi ym myngalo Pengwern tua 9 o'r gloch y nos, wedi gweld y cenhadwr hwnnw'n cusanu Philti.

Ac eto, o ddewis yr aeth yn ôl yno cael grant teithio gan Gyngor y Celfyddydau.

A thrannoeth y bore y gwahanasant [Geraint a'r Brenin Bychan] ac ydd aeth Geraint parth â'i gyfoeth ei hun a gwladychu o hynny allan yn llwyddiannus, ef a'i filwriaeth a'i wychdra yn parhau gan glod ac edmyg iddo ac i Enid o hynny allan.

Caeodd hithau'r drws ac aeth i eistedd wrth y tân, lle'r oedd Twm a Bet yn synfyfyrio'n gysglyd i ganol y fflamau.

Aeth yn ôl i'r dref fel y daeth trên arall ac ynddi saith cerbyd a llu o deithwyr i'r groesfan.

Fel ei gyd-athrawon yn Adrannau Cymraeg eraill tri choleg y Brifysgol, roedd yn rhaid iddo gynhyrchu rhan fawr o'r tetunau llenyddol y gelwid arno i ddarlithio arnynt ac aeth llawer o'i ynni a'i amser i gyhoeddi defnyddiau felly - argraffiad o gywyddau Goronwy Owen, a blodeugerdd o farddoniaeth yr Oesoedd Canol.

Arafodd prysurdeb y dorf ar unwaith, ac aeth pawb i'r ochr yn frysiog.

Aeth y newyddion drwy'r lle fel tân mewn rhedyn sych.

`Mae'n rhaid fod rhywbeth ynddo.' Funudau'n ddiweddarach symudwyd y cwn oddi yno ac aeth yr arbenigwyr draw at y parsel.

Ble arall?" "Fi aeth â thi yno gyntaf erioed.

"Ac yn chwarae tric er mwyn cael hwyl," ebe Wyn, "ond bod yr hwyl wedi troi'n chwerw." Aeth Llinos a Del i edrych dros y berth i'r cae lle roedd y ddau ferlyn yn pori.

Ac fe aeth at Richard Owen, ac fe atebodd hwnnw ar unwaith: 'Fe ddof yno gyda thi.' Ac ar ôl dod adref o'r gwaith fe aeth Owen George at y bobl oddi amgylch Ysgol y Nant a dweud am y cyfarfod gweddi oedd i fod yno.

Aeth munud arall o ddistawrwydd heibio.