Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

aethom

aethom

Aethom i mewn i swyddfa Mohammad Sadique, sef pennaeth yr holl ganghennau oedd gan y banc yn y Dwyrain Canol.

Fe'm dilynodd i mewn, caeodd y drws allanol, agorodd ddrws ar y tu mewn ac aethom trwy hwnnw.

Ar ein ffordd adref aethom i Lanelwedd er mwyn imi annerch cyfarfod o bwyllgor siroedd Brycheiniog a Maesyfed o'r Undeb.

O'r cwmwd aethom dros y bencydd a'r rhosydd yn fintai fechan o blant o bedwar cartref i'r ysgol, lle'r agorwyd inni feysydd a bydoedd newydd o oleuni.

Felly aethom drwy yr Actau yn dra thrwyadl.

Ar ôl treulio prynhawn difyr, aethom allan am bryd nos efo'r myfyrwyr.

"Ar ôl aros yn y Cape dros amryw fisoedd, aethom ­ Alikan Bay i wylio rhag i'r Ffrancod lanio yno.

Evan Tom Jones a esboniodd inni'r ffenomenon a'n gyrasai yn ein holau drwy'r twnnel y noson cynt, yn gyflymach nag yr aethom iddo.

Roedd gwahoddiad i chwech ohonom i'w sosial, ac aethom mewn hen Austin oedd gan Dic Tyddyn Bach, pedwar ohonom fel sardines yn y tu ôl ac yn chwys diferol.

Canwyd y gloch ac aethom ninnau i mewn.

Aethom draw at y twr lleiaf ar y chwith i gael hoe a phaned.

Pan oed ef tau naw i ddeg oed aethom i fyw i Waelod-y- garth.

A son am wefr a gefais pan aethom unwaith am drip rownd Sir Fon.

Yn ddigon naturiol, pan aethom i'w golwg torrodd i wylo, ac ni allai ddweud dim am beth amser.

Aethom i chwilio am fwyd.

Ymlaen yr aethom drwy'r fagddu nes i enau gogleddol y twnnel ymddangos braidd yn ddisymwth, ac yn nes atom nag y disgwyliem, gan fod tro yn y twnnel.

Pan aethom ddechrau Rhagfyr roeddem yng nghanol y tywydd oer ond sych ac felly dylai'r llwybrau fod yn glir o rew.

Aethom ar ei ôl, heb syniad ble'r oeddem yn mynd.

Aethom allan trwy'r drysau gwydr ac ar hyd llwybr llyfn o fflagiau coch a oedd yn arwain o'r garej hyd ymyl pellaf y lawnt.

Aethom trwy nifer o bentrefi bychain amrywiol.

Aethom yn fore i'r dref i nôl y ffeltin a daeth y wraig hefo mi er mwyn inni gael galw yn Kwiks ar y ffordd yn ôl.

Y dref gyntaf o faint gweddol yr aethom trwyddi oedd Plzen.

Aethom tua'r bryn gyferbyn â'r coleg a dod o hyd i lôn arall.

Aethom i lawr trwy ganol Ceredigion, Pontrhydfendigaid a Thregaron, a mwynhau'r daith yn fawr.