Trwy weddill y ganrif ddilynol aethpwyd ati i gymharu ieithoedd â'i gilydd er mwyn olrhain nodweddion y famiaith wreiddiol a cheisio adlunio'i ffurfiau.
Daeth llawer iawn o bobl i'n tŷ ni i ddechrau, ac wedyn i Bethel, lle'r aethpwyd a hi, ac y cynhaliwyd cwrdd, a'r capel yn orlawn.
Ar ôl ateb y ffôn, aethpwyd ymlaen â'r sgwrs fel pe na bai dim o bwys wedi digwydd.
Aethpwyd â Siwsan, y plant a minnau i swyddfa er mwyn ein holi eto gan swyddogion oedd yn awyddus i wybod sut roedden ni'n ein hadnabod ein gilydd.
Aethpwyd â phlant Mrs Roberts, oedd yn arfer byw yn ardal Wrecsam, hefyd i'r ysbyty a dechreuwyd ymchwiliad yn syth gan yr Heddlu sydd wedi slarad gyda gweithwyr a phreswylwyr y lloches.
Adferf yw yma yn ôl ei brif swyddogaeth ond aethpwyd i'w gyfuno â'r fannod yn swyddogaeth ansoddair dangosol didoledig, y ...yma, mewn dynwarediad o'r gwir ddangosolion hwn, hon etc., a all weithredu yn swydd rhagenw dangosol neu fel ansoddair dangosol didoledig mewn cydweithrediad â'r fannod.
Wrth greu categori 'y rhamantau' neu 'y tair rhamant' pwysleisiwyd gennym nodweddion a barai fod Peredur, Iarlles y Ffynnon, Gereint ac Enid rywsut yn sefyll ar wahân braidd i brif ffrwd y testunau rhyddiaith storiol 'brodorol' (ac nid oes rhaid ailrestru nodweddion tybiedig y rheini yma), ac aethpwyd ati i'w cymharu â'i gilydd er mwyn darganfod y priodoleddau cyffredin a allai gyfiawnhau eu gosod oll yn yr un dosbarth.
Cofiaf dripiau diwedd y tri degau ac un yn arbennig pan aethpwyd i New Brighton.
Hon oedd cynhadledd flynyddol gyntaf CYD ac aethpwyd i'r afael â'r dasg heriol o lunio strategaeth i hyrwyddo'r Gymraeg ymhlith pobl ifanc.
Aethpwyd â ni un noson i seremoni wobrwyo yn yr Academi Filwrol i Ferched.
Aethpwyd yn ôl i ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg trwy ofyn am Arwrgerdd, cam enfawr yn ôl i'r gorffennol wedi arbrofion chwyldroadol y dauddegau yng nghystadleuaeth y Goron.
Yn fwriadol, aethpwyd â Talkback allan o'r stiwdio ac o'r herwydd roedd yn rhaglen hyblyg a allai ymateb i bynciau llosg y dydd ar amrantiad.
Aethpwyd ati i wahodd yr awdurdodau lleol, y cymdeithasau a'r cyrff crefyddol a'r eglwysi, y pleidiau gwleidyddol a mudiadau, i anfon cynrychiolwyr yno.
Aethpwyd ati wedyn i lunio rhestr enghreifftiol o eitemau, a gynrychiolai lefel sylfaenol o fedrau, y byddai ar oedolyn ei hangen ar gyfer bywyd proffesiynol a chymdeithasol mewn cymuned Saesneg.
Yn anffodus trawyd Mrs Jenkins yn wael iawn y nos cyn ei angladd ac aethpwyd â hi i Ysbyty Tywysoges Cymru.
Ategodd Mair Roberts, y Llywydd Rhanbarth newydd, y diolch i'r swyddogion ac aethpwyd ymlaen at weddill y materion i'w trafod.
Cafwyd tywydd braf a heulog, tywydd cynhaeaf da ac aethpwyd ati i hel gwair.
Yna, aethpwyd ati i fagu'r anifeiliaid ar rai ffermydd yn ddiweddar yn ne a chanol- barth Sweden.
Felly, peidiodd yr ymchwilydd gwyddonol â bod yn bechadur ac aethpwyd i fawrygu'r bersonoliaeth sofran a rhydd a allai astudio byd Natur heb gyfeirio at Dduw na dim o'r athrawiaethau nodweddiadol Gristionogol.
Cyn bo hir aethpwyd i synio am ei 'dad' fel tipyn o ddewin.
Ymhen hir a hwyr aethpwyd â hi i ystafell arbennig i gael ei chyhuddo o ddifrod troseddol ac o rwsytro'r heddlu.