Y noson honno, daeth Aethwy ar dro i'n llety ni gyda'i stori : Mi es i heibio i Tom yn y coleg 'na, ac mi dudis i wrtho fo, dwi'n gweld mai Thomas Parry sy ar tu allan i'ch llyfr chi, ac nid Tom Parry.
Yn ein plith ym Mangor yr oedd myfyriwr o'r enw Henry Aethwy Jones, brawd o Lerpwl, a feddai gyflawnder tra helaeth o hunanhyder, ac un a fentrai drafod ei athrawon fel cydradd, a hynny mewn Cymraeg oedd yn camdreiglo'n rhyfedd.