Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

afalau

afalau

Ac mi gawsom ni hyd i'r gath wedi'i chrogi ar gangen y goeden afalau yn yr ardd.

Ac wedi cyfaddef bod agendor rhwng delfryd ac ymddygiad yn fy arferion bwyta, megis mewn llawer o bethau eraill, rhaid imi ganmol y bacwn a'r wy a gawsom i frecwast bob bore cyn cychwyn ar y daith, a'r bara toddion bras nad yw dietegwyr heddiw yn ei gymeradwyo, y brechdanau ham, a'r caws, a'r tomatos a'r afalau a baciwyd beunydd ar ein cyfer.

Roedd y cwpoc, y ceirios, yr afalau bach surion, a'r eirin duon bach i wneud gwin, yn arwydd nad oedd y gaeaf wedi cyrraedd eto.

Gwewlodd Newton wedyn fod ymddygiad y cerrig yn Pisa yn wir hefyd am afalau a gwrthrychau eraill o wahanol siapiau a maint yn Lloegr.

Yno y magai yn ei siol ei theulu niferus o gathod bach ac y llenwai bocedi'i brat ag afalau prenglas o'r ardd anial.

COCH Y BERLLAN - Ffrwythau egroes TITW TOMOS LAS - Mwyar duon COCH DAN ADAIN - Afalau TELOR PENDDU - Eirin Ysgaw

Yr oedd hefyd yn awdurdod ar ddiod ei fro, a chofiai'r manylion lleiaf ynglŷn â hi a'r rhywogaethau neilltuol o afalau y gwasgwsid hi ohonynt.

Mae cwymp petalau blodau afalau a gellyg yn arwydd eu bod wedi cael eu peillio a'u ffrwythloni.

Elen: Eirin pêr ac afalau gloddiau'r ydlan a'r clos, llus-duon-bach, mwyar, llugaeron, afan a syfi, ddigonedd .

Blas sur sydd i ffrwythau heb aeddfedu, am eu bod yn cynnwys asid.Er enghraifft mae asid malig mewn afalau surion, ac asid tartarig mewn grawnwin.Asid sitrig sydd mewn lemonau, a dyna pam y gelwir ffrwythau megis lemonau a leim yn ffrwythau sitrig.

Yn y gwanwyn a'r haf fe welir nifer o chwyddau ar ddail a blagur y dderwen.Gelwir y rhain yn farblis coed neu afalau derw.