Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

affer

affer

Bod Lisa wedi cael affêr gydag Ieuan Griffiths.

Gwaethygodd eu priodas yn arw wrth i Eileen helpu ei chwaer, Gina, ac ym mis Mai 1996 gwahanodd y ddau ar ôl i Denzil gael gwybod fod Eileen yn cael affêr gyda Jon, cyfreithiwr Gina.

Mae Hywel wedi cael sawl perthynas stormus ers iddo gyrraedd y cwm - llwyddodd i chwalu priodas Beth a Sgt James wrth iddo ef a Beth gael affêr gyfrinachol am gyfnod hir.

Ceisiodd Lisa fyw gyda Dic am gyfnod ond 'doedd cyd-fyw ddim yn hanner cymaint o sbort ag affêr a chwalodd y cwbwl yn fuan wrth i Lisa ddychwelyd at Barry John a'i dwyllo yntau hefyd.

Y 70au Doedd hi ddim yn gyfnod hapus i Cliff a Megan James yn y Deri - 'roedd y ddau yn ffraeo fel ci a chath a Megan yn ama fod Cliff yn cael affêr.

Ond 'roedd bihafio yn rhy anodd iddo - cafodd affêr gyda Sharon, cariad Mark, ac yna affêr arall gyda Mrs Mac.

Cafodd Mrs Mac ailgynnig ar hapusrwydd yn 1997 pan ddechreuodd gael affêr gyda Dyff.

Tro Ieuan Griffiths oedd hi i gael affêr gyda Lisa y tro hwn ac unwaith eto llwyddodd Lisa i greu helynt diangen.

Wedi perthynas fer gyda Barry John llwyddodd Lisa i chwalu priodas Dic Deryn a Carol yn yfflon wrth iddi gychwyn affêr gyda Dic, ei bos, yn 1990.

Aeth pethau ar chwâl wrth i Stan yfed yn drwm ac i Sylvia gael affêr gyda Wayne Harries.

Priododd Dic a Carol yn 1989 ond byrhoedlog iawn fu'r briodas gan i Dic gael affêr gyda Lisa Morgan, ei ysgrifenyddes.

Mae Teg wedi byw gyda sawl affêr mae Cassie wedi ei chael - 'roedd yn gwybod y cwbl am anturiaethau ei wraig ond dewisodd gadw'n dawel gan ei fod yn teimlo'n lwcus ei fod yn wr i Cassie.