Affos ei hun a feirniadodd hefyd, ond rywfodd neu'i gilydd ni dderbyniwyd ei feirniadaeth mewn pryd i'w chyhoeddi.
Fe gostiodd yn ddrud i Affos, ond fe dawelodd y dadlau ynghylch Casino dros dro.
Ond ar y cyfan roedd Affos yn frenin call, a gadawodd y mater i'r llys i'w benderfynu.
I ddangos nad oedd dim drwgdeimlad, er bod pawb yn gwybod fod, gwnaeth Affos frawd-yng-nghyfraith ei wraig yn Swyddog Cynllunio gyda'r teitl o Bennaeth ac er mai dyna'r teitl isaf yn y wlad mynnodd Ynot o hynny ymlaen gael ei alw wrth ei deitl, a phan arwyddai lythyr, swyddogol neu breifat, torrai ei enw, 'Ynot Benn.' Rhyfeddodd erioed i'r Brenin Affos gydsynio iddo briodi i mewn i'r teulu brenhinol, ond wedi'r cwbl roedd Arabrab yn ddychrynllyd o hyll, a'r blynyddoedd yn cerdded.
Ond gwelodd y Brenin Affos y perygl.
Fe ddywedai gwybodusion y llys wrthych na fu'rioed fawr o gariad rhwng y Brenin Affos ac Ynot.
Yn nhawelwch y Lotments un noswaith, a'i hoff arddwyr o'i gwmpas yn drist eu hwynebau ac yntau'n dal clamp o wnionyn braf yn ei law, cymerodd y Brenin Affos lw y gwnai ei orau i gadw'r wnionyn a'r Lotments rhag dinistr dan law'r datblygwyr.
Buasai dweud fod Affos yn ffond o wynwyn yn llai na'r gwir: carai nhw'n angerddol.
Roedd y Brein Affos yn hoff iawn o wisgo amdano a chymryd rhan mewn dramau.
Ni fargeiniodd, fodd bynnag, am ystyfnigrwydd y Brenin Affos a'i hoffder ef a Navid a Namotto'r Dywysoges o wynwyn.
Fedrai Ynot Benn ddim aros y dydd pan welai Affos y Brenin yn gosod carreg sylfaen y Casino Newydd a'r ddau fwldoser mwya'n y byd o bobtu iddo, yng nghanol y Lotments.
Sut bynnag, aeth digon o amser heibio i weld fod ymweliad byr Wil Twmpath wedi dylanwadu'n fawr ar fywyd yn N'Ogiaid, achos cyn gynted ag y profodd y Brenin Affos y wynwyn aethant yn ffefryn mawr ym mhlith bwydydd y llys, ac yr oedd Affos a'i wraig Navid, a Namotto eu merch yn ddigon poblogaidd i ddechrau'r ffasiwn trwy'r holl deyrnas.
Roedd Affos y Brenin yn cynnig gwobr bob wythnos am dri mis o Gan Ceiniog Felen am y wnionyn mwyaf allan o holl erddi N'Og, ac ar ben hynny Fil o Geiniogau Melyn am y mwyaf bob mis.
Er bod y Brenin Affos yn gwrthwynebu fflatiau yn ddiweddar (Pwy a allai dyfu wynwyn mewn fflat?) caniataodd Ynot i gynlluniau fynd trwodd am floc o fflatiau yn union ar gyfer tŷ helaeth Eproth, y Gweinidog Cerdd a Dawns.
Gosododd y Brenin Affos ddarn helaeth o dir yn union y tu allan i furiau ei balas i fod yn Lotments, a chyhoeddodd fod traean o bob gardd trwy'r deyrnas, gan gynnwys pob lotment, i dyfu wynwyn.