Roedd ei thad yn ei afiaith yn trafod cynlluniau'r Llety o wythnos i wythnos.
Dyffryn afon Lledr yn llawn ffresni i gyfeiriad Bwlch y Groes a llethrau'r Drosgol, efo ambell oen bach yn prancio yn ei afiaith ar y llechwedd.
Ac fel y gwelsom, byddai'n aml yn anghofio disgyblaeth lem ei glasuriaeth yn ei afiaith wrth drafod llenorion unigol.
Er bod Bedwyr wrthi'n traethu cerddodd Mrs R____ ar hyd yr ale/ i'r tu blaen, eistedd, edrych i fyw ei lygaid, a cherdded allan ar ei hunion y ffordd y daeth, gan ddweud wrth geidwad y drysau y tybiai hi mai DLlM a gyhoeddwyd i ddarlithio yno: "Dw-i wedi clŵad hwn o'r blaen." BLJ ei hun a ddywedodd y stori wrthyf i, gyda'r afiaith arferol hwnnw a gyffroai ei aelodau i gyd.
Disgrifir yr helynt ar fuarth Pen y Bryn gyda chryn afiaith, yn enwedig y modd y caiff yr arwerthwr a'r Saeson eu hannos gan y dorf.
Wn i ddim amdano chi ond yr ydw i wedi cael llond bol ar bwndit ar ôl pwndit yn siarad am gemau cyfartal gyda't un afiaith a phe bydden nhw yn gemau wedi eu hennill.
A hynny gyda'r un afiaith a dyn yr Echo y tu allan i Barc yr Arfau wedi gêm fawr.
Teg fyddai gweld llwyddiant y cyngerdd fel gorchest bersonol y brifathrawes, Mrs Malltwen Williams, a oedd yn arwain, yn ledio'r gan, ac yn cadw trefn ar y plant ac arnom ninnau'r gynulleidfa gydag afiaith di-ben-draw.