Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

afiechydon

afiechydon

Pery FIM (SIV), sy'n aelod arall o'r teulu, afiechyd tebyg i AIDS mewn mwnci%od, tra pery eraill afiechydon mewn cathod, ac yn y blaen.

Gellir cael siartiau i ddangos pa ddefnyddiau sy'n addas at drin y gwahanol afiechydon a phlâu.

Nid yn unig maent yn disgrifio'r afiechydon yn fanwl, ond awgrymant hefyd fwy nag un feddyginiaeth.

Penderfynodd y Ganolfan Rheoli Afiechydon felly fod rhywbeth newydd yn peri diffyg yng nghyfundrefn imwn y cleifion hyn.

Ceir sawl disgrifiad o arwyddion afiechydon a dyma un enghraifft fanwl gan Margiad Roberts yn ei cherdd Salwch.

Yn ôl rhai adroddiadau, gall OP achosi niwed i'r ymennydd, afiechydon i'r croen a marwolaethau cynnar.

Y mae amryw byd o afiechydon marwol y dyddiau gynt i fesur wedi eu concro bellach a'r gwelliannau a ddaeth yn gyfrwng i ymestyn oes llawer ar daith bywyd.

Gwyddai oddi wrth yr ychydig lythyrau a ddilynodd nad oedd pethau'n argoeli'n dda i Lynges Prydain yn India'r Gorllewin - Eistaing, a'r Llyngesydd a'i holynodd, Comte de Guichen, yn gyfrwys, y morwyr a'r milwyr yn anystywallt, afiechydon yn rhemp a llong ugain oed fel y Cornwall yn gollwng fel basged.

Yn fy marn i, mae dau reswm fod y clefyd wedi cael cymaint o afael mewn cyfnod pan rydd gwyddoniaeth fesurau mor effeithiol i reoli afiechydon.

Casgliad o gerddi doniol yn sôn am afiechydon.

Mae nifer fu'n gweithio yn yr orsaf bwer ble roedd yna ddefnydd helaeth o asbestos yn dioddef o afiechydon sy'n gysylltiedig ag e.

Er bod pedwar deg wyth wedi marw allan o bron i bymtheg can o garcharorion, morwyr a milwyr a gludwyd mewn un ar ddeg o longau, roedd Capten Arthur Phillip wedi cyflawni un o fordeithiau enwocaf hanes y mor, dros bymtheng mil o filltiroedd heb golli'r un llong.Roedd y marwolaethau'n llawer mwy yn y llyngesau a'i dilynodd oherwydd gorlwytho, prinder bwyd, creulondeb annynol ac afiechydon a oedd yn deillio'n anorfod o'r sefyllfa ar y llongau, a'r ffaith bod y fordaith mor hir.

Yr hyn sy'n fwyaf amlwg wrth ddarllen y llyfr ydi bod mil-feddyg heddiw yn deall natur yr afiechydon yn llawer gwell.

Un o ser mwyaf disglair byd y teledu ar hyn o bryd yw'r gŵr dwys, pryd tywyll sy'n honni ei fod yn meddu ar allu goruwchnaturiol i ddefnyddio'r cyfrwng er gwella afiechydon ac anhwylderau o bob math.

Adroddiad yn pwysleisio'r afiechydon a oedd yn deillio o dlodi yng Nghymru.

Oni fyddai yno ddŵr glân i rwystro'r afiechydon rhag eu dwyn i ffwrdd o'r fuchedd hon i'r nefol gôr yn gynt na phryd?

Cwmni Dr Helen Roberts, Y Felinheli, a gawsom ym mis Chwefror, ac yn ei ffordd naturiol aeth â ni yn ôl genedlaethau i ddisgrifio'r afiechydon a fodolai, gan olrhain y cynnydd a fu dros y blynyddoedd i'w trechu.

Mae'n rhyfedd meddwl pan wneir awgrymiadau fel hyn o ganolfannau ddylai fod yn ddibynnol, iddynt hwy ac eraill fychanu gwerth deilbridd pan ddaeth y syniad o ddefnyddio mawn i fod, gan ddweud fod deilbridd yn ffynhonnell pob math o afiechydon planhigion a phryfetach tra bod mawn yn glir ohonynt!

Mae'n rhaid i ffermwyr ddipio defaid yn ôl y gyfraith yn flynyddol i arbed yr anifeiliaid rhag afiechydon.

Gwaith Angela fydd helpu doctoriaid i ddatblygu cofrestrau afiechydon i sicrhau y bydd cleifion sy'n debyg o ddiodde o glefyd y galon yn cael y driniaeth orau bosib," meddai.