Aeth ymlaen i'r Brifysgol ym Mangor i astudio mathemateg ac er i'w ddiddordeb afieithus mewn ieithoedd barhau (gall ddarllen Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg a Rwseg) ym maes mathemateg y gwnaeth ei fywoliaeth.
Y mae awydd afieithus yr awdur i groniclo hanes ysgeler Wil yn creu rhyw amwysedd gogleisiol ym meddwl y darllenwr.
Buan y daethom i glyw bwrlwm afieithus y mân raeadrau wrth groesi'r bont tu cefn i Fwthyn Ogwen.
Heb ddim o'r holl bethau hyn, yr oedd bopeth ac yn afieithus fyw: y math o ddyn sydd yn ein gwthio, muled a fulo, i gredu fod yna rywbeth wedi'r cwbl nas trechir gan angau fyth, a hynny nid am ei fod a wnelo un dim â dogmâu crefyddol, ond am fod dyn yn ei briod berson yn annistrywadwy.
'Rydan ni'n dueddol o feddwl am chwerthin fel peth pleserus, cynnes, afieithus; cyfrwng i ddangos a rhannu llawenydd.
Ers blynyddoedd, drwy aeafau hir, bu'n mynd o leiaf unwaith, weithiau ddwywaith yr wythnos i annerch cylchoedd llenyddol a chymdeithasau Ffermwyr Ifainc a'r WI a Merched y Wawr, mynd weithiau yn flinedig ar ôl diwrnod caled yn y Coleg, a dychwelyd yn afieithus flinedig gyda rhyw ddywediad dierth neu air newydd a godasai yn anrheg gan ryw ffermwr neu wraig-tŷ ac a roesai yn ddiogel yn ei dun baco.