Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

aflywodraethus

aflywodraethus

Yn ôl un bardd 'deubeth sydd ddrwg eu diben' mewn cymdeithas wâr, sef 'tref heb parch', sef cymuned o bobl, a 'tyrfa heb ben', sef cynulliad heb atweiniad a allai droi'n anniben ac aflywodraethus.

"Ma'ch traed bach hi fel llyffantod." Dechreuodd Laura Elin oglais gwadn troed dde Jeremeia Hughes, yr unig fan gwantan yn ei holl bersonoliaeth, ac aeth y gŵr piwis i ffit aflywodraethus o chwerthin.

Ond pa tip-girl, mewn difrif, a fyddai'n debygol o ddweud wrth ŵr ifanc nwydus a oedd yn sibrwd 'acenion cariad' yn ei chlust: 'A ydych yn ddirwestwr?' Oni fyddai puteiniaid cyhyrog ac ystrywgar ardal Chinatown - merched fel 'Snuffy Nell' Sullivan, 'Big Jane' Thomas a 'Saucy Stack' Edwards - wedi chwerthin yn aflywodraethus petaent wedi darllen disgrifiadau Ieuan Gwynedd o'r Gymraes nodweddiadol: 'y forwyn wridgoch sydd yn adsain y fuches hwyr a boreu â melusder ei chân .