Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

afonydd

afonydd

Olion afonydd Ond maentumir nad oedd Mawrth yn rhewllyd trwy gydol ei hoes oblegid yn ystod ei dyddiau cynnar credir fod yma gynhysgaeth gref o nwyon yn byrlymu o fynyddoedd tanllyd ar hydddi gan greu atmosffer trwchus o'i gylch ac yn cadw gwres yr haul rhag dianc ac o'r herwydd yn codi tymheredd arwynebol y blaned.

Os astudir rhannau hynaf y blaned Goch fe sylwir ar olion sianelau afonydd yn ymdroelli hyd-ddynt a gellir ei dyddio'n ôl i adeg y mynyddoedd tanllyd actif.

Felly, yr oedd Ioan Evans yn mynd a'i deulu i'r capel ar hyd yr haf am flynyddoedd gan wneud rhyw dair lîg a croesi dwy afon, ac yn y gwanwyn pan fyddai'r eira yn dadmar ar y mynyddoedd, 'roedd yr afonydd yn codi, a chawsom fwy nag un dychryn wrth ei mentro, gan fod yn dŵr yn dod i fewn i'r cerbyd.

Paradwys pysgotwr fyddai afonydd clir a llynnau llawnion, a meddyliwch mor hapus fyddai ar ddarllenwr eang o gael byw mewn llyfrgell yn llawn o lyfrau o bob math.

Bellach daeth arwyddocâd newydd i'r hen wyl, gyda'r pryder ynglyn â gwenwyno'r afonydd, torri fforestydd, troi tir âr yn anialwch a difa rhywiogaethau cyfain o greaduriaid.

Yna yng ngwanwyn bob blwyddyn daw miloedd ar filoedd i ymwthio i fyny afonydd Ewrop.

Yn wir y mae sawl gwareiddiad cynnar wedi tyfu ar hyd afonydd.

Gwelsom Mr Jones, Dolwar, yn croesi'r cae â phâl yn ei law, wedi bod yn chwilio am ddiferyn o ddŵr i'w ddiadell, ac yr oedd honno'n ei ddilyn gan frefu mor daer â'r hydd a glywsai'r Salmydd gynt yn brefu am yr afonydd dyfroedd.

Holiadau Lhwyd sy'n gosod y patrwm, ond Rowlands biau drylwyredd deallus yr atebion sy'n nodi enwau, ffiniau a phoblogaeth pum plwyf Llanidan, Llanedwen, Llanddaniel-fab, Llanfairpwll a Llandysilio, ynghyd a manylion am eu hanes, eu henebion (gyda darluniau ohonynt), a sylwadau ar ansawdd y tir, y cynnyrch, a'r gwrtaith a ddefnyddid, y ffynhonnau, yr afonydd, y dirwedd a'r mathau o gregin a geid ar lan y mor.

Baladeulyn hefyd oedd enw'r afonydd a oedd yn cysylltu Llynnoedd Nantlle yn Nyffryn Nantlle ac y sydd o hyd yn cysylltu Llynnau Mymbyr ger Capel Curig.

Erbyn canol yr ail ganrif ar bymtheg roedd rhai gwyddonwyr a naturiaethwyr wedi barnu fod a wnelo mudo o'r dyfroedd croyw i'r môr rywbeth â'r broses, ac yr oeddent wedi cysylltu'r sylw fod llysywod bach yn dod o'r môr i fyny'r afonydd bob gwanwyn â'r broses o symud i lawr i'r môr.

Hwy hefyd, fel arfer, fydd wedi cyrraedd uchaf i'r afonydd a'r llednentydd.

Y mae caniata/ u i fwg ein ffatrioedd wenwyno'r awyr a dad- ddeilio'r coed ac i'w helifiant lygru'r afonydd yn drosedd yn erbyn y Creawdwr.

Mae rhwydwaith Afon Cefni, un o brif afonydd Môn, yn gymhleth iawn.

Faint o wahanol ffyrdd o ddefnyddio afonydd y gellwch chi feddwl amdanynt?

Ni allai ein byd modern ychwaith fodoli heb afonydd.

Gwell peidio casglu'r blodau chwaith, gwywo'n llipa wnant cyn pen fawr o dro wedi eu codi, mae'n llawer rheitiach eu gadael i eraill fwynhau eu prydferthwch.Cynefin tra gwahanol sydd i Flodyn y Gog un sychedig yw hwn ac felly ar weirgloddiau llaith a glannau afonydd y'i gwelwn.

(Yn wir, ceisiwyd cyflawni'r un gamp yn ystod gwers symiau ar fore Llun ambell dro!) Clywsom am ei gampau anhygoel yn nofio afonydd, yn dal llama ac yn marchogaeth merlod y paith.

Gan ddefnyddio'r wybodaeth yn yr adran Afonydd yn y Tirwedd, awgrymwch sut y gallai y pethau hyn fod wedi achosi llifogydd.

Testun ei awen bryd hynny oedd 'Wrth afonydd Babel' Roedd y Ford Gron yn llawn gwybodaeth am arlunwyr, ffasiynau, glweidyddiaeth, llyfrau a materion beunyddiol, y cyfnod.

Y mae afonydd yn bwysig iawn i bobl.

Yn union fel y mae pobl wedi dylanwadu ar yr afonydd a'u tirwedd, y mae'n wir dweud bod y pethau hyn wedi effeithio ar fywydau pobl.

Am ddau ddiwrnod cyfan bu Idris yn crwydro drwy'r goedwig, ond y trydydd dydd, yn y bore bach, cyrhaeddodd wlad brydferth yn llawn mân fryniau a dolydd, afonydd yn llifo drwy'r cymoedd, pentrefi bach yn britho'r wlad a chestyll urddasol yma a thraw ar y bryniau.

Fel llawer o afonydd y mae Afon Conwy weithiau yn llifo dros ei glannau ac yn gorchuddio'r tir o'i hamgylch.

Nodwyd bod rhai athrawon, erbyn hyn, eisiau canllawiau gramadegol wrth ddysgu Cymraeg; AFONYDD YN Y TIRWEDD

serch hynny, yr oedd robert griffith yn gwybod fod joseph wedi marw trwy foddi yn un o afonydd mawr america.

Y grêd bresennol yw i'r cefnfor hwn ail-lenwi sawl tro yn ystod cyfnod diweddarach yn hanes Mawrth ac fe seilir cred o'r fath ar sylwadaeth o ddyffrynnoedd afonydd ar gledr mynyddoedd tanllyd mwy diweddar.

Roedd yn pistyllio bwrw, a'r strydoedd yn troi'n afonydd.

Roedd y brithyll yn yr afon yn dywyllach na rhai o afonydd eraill, ac yn fwy melyn odanynt a'r smotiau ar eu cefnau yn goch tywyll.

Ymatebodd y Llywodraeth Brydeinig naill ai drwy reolau llym, er enghraifft ar lygru afonydd, neu drwy gynnig cytundebau i warchod naill ai ardaloedd arbennig - fel yn yr ESA neu i warchod adnoddau arbennig megis gwrychoedd, llynnoedd, coedwigoedd (e.e.

Waeth sut afon yw hi, bydd eich afon neu nant leol yn debyg mewn sawl ffordd i Afon Conwy yng Ngogledd Cymru, yr afon a ddefnyddir yn yr astudiaeth achos yn yr adran ar Afonydd yn y Tirwedd.

Mae rhai ohonynt yn dal i dyfu, meddir, ac mewn mannau eraill mae'r cerrig yn codi ac yn mynd i ymolchi neu i dorri eu syched mewn afonydd neu yn y môr ar un noson arbennig.

Y mae ychydig o rai mathau o greigiau (megis calchfaen) yn toddi mewn dŵr, ac y mae afonydd yn toddi tir hefyd drwy broses a elwir yn gerydu.

Gellir cysylltu'r enw ag enwau afonydd cyffelyb, megis Hoddnant ym Maesyfed, Morgannwg a Phenfro, Hoddnan ym Morgannwg a Hoffnant yng Ngheredigion.

Afonydd yw'r prif gyfrwng i wneud hynny.

Cred rhai i'r afonydd hyn lifo i gefnfor anferth a fu'n sych ers tair biliwn o flynyddoedd!

Ond y mae gan afonydd swyddogaeth arall bwysig yn y tirwedd, fel rhan o'r gylched graig.

Y mae erydiad o'r fath yn golygu fod afonydd weithiau yn lleidiog gan eu bod yn cario gwaddod.

Ychwanegodd mai hon oedd yr unig safle buasai'r Awdurdod Afonydd yn ei ganiatau yn y Dosbarth.

A chyffyrddiad dy law yr wyt yn llonyddu'r afonydd trwy eu carcharu mewn rhew ac yn gwisgo ein mynyddoedd ysgythrog â llyfnder dihalog.

Y mae i'r plwyf hwn ei batrwm ffisegol yn ei nentydd a'i afonydd, ei ffyrdd a'i ffermydd, ei gloddiau a'i gaeau, ei bant a bryn, ei goed a'i ddrysni, ei lechwedd a'i wastadedd, ei wyndwn sych a'i rosydd corsiog.

Ond ni a bwyswn, y dydd hwn, ar addewidion dy Air - Pan elych trwy y dyfroedd, myfi a fyddaf gyda thi, a thrwy yr afonydd fel na lifont drosot.

Sychodd llawer o afonydd.

Cyfaddefaf fy nyled i'r pysgotwr/naturiaethwr enwog - mae fy helfeydd wedi cynyddu ers i mi astudio ei lyfr a'i addasu i'r afonydd lle y pysgotaf am sewin.

Beth bynnag fo'r problemau, y gwir amdani yw bod angen afonydd arnom.