Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

afresymol

afresymol

Mae croeso iddi hi fyw yn ôl patrwm Ledi Gysta os ydi'n dewis hynny, ond mae disgwyl i mi siopwr ynghanol gwlad, drefnu 'mywyd ar yr un llinella â rhyw sprigyn o Syr hefo mwy o bres neg o synnwyr, yn afresymol.

Dengys yr Athro yn ei lith pa mor wrthun oedd atgasedd afresymol rhai Cymry y pryd hynny at bopeth a ysgrifennid yn yr iaith Saesneg.

Bu'n rhaid i ni gyfnewid swm penodol o arian am bob diwrnod yr oeddem yn bwriadu aros yno , ond 'roedd y gyfradd newid yn afresymol o uchel (Dyma ran o ffordd y Comiwnyddion o gael arian o'r Gorllewin i mewn i'r wlad.) Wedi cyfnod go faith, cawsom fynd ar ein ffordd.

Y mae'n ddigon tebyg bod yna ambell i alwad afresymol, ond sut y mae gwahaniaethu?

Go brin fy mod i'n afresymol yn disgwyl gwell gwasanaeth gan brif siop lyfrau Cymraeg ein Prifddinas.

ei bod yn afresymol disgwyl i athro unigol feddu ar lefel uchel o arbenigedd mewn mwy nag ychydig o'r meysydd cwricwlaidd.

Mynnwn fod yn afresymol.

Nid afresymol awgrymu ymhellach y byddai'n datguddio mwy o'i brofiad personol yn ei waith fel yr oedd yn aeddfedu fel nofelydd ac yntau o'r dechrau yn sefyll y tu allan i feddwl 'swyddogol' ei gymdeithas ac yn pwyso a mesur y meddwl hwnnw yng ngoleuni ei brofiad ei hun.

Thema'r gwasanaeth oedd 'Bywyd cyn Marwolaeth' ac roedd gan Mr Hughes ystadegau syfrdanol i ddangos sut mae'r Trydydd Byd yn cael ei ddefnyddio gan wledydd y Gorllewin i wneud elw afresymol o fawr iddynt hwy eu hunain.

Gorfodwyd arweinwyr yr eglwys, gan syniadau afresymol y damcaniaethau Gnosticaidd, a'u safiad gwrth-ysgrythurol,

Yr oedd yn gwneud perffaith synnwyr i'r dyn cydnerth ai gyhyraun sgleinion frown ar sgrins sinemau fod yn Mr World - ond yn gwbwl afresymol i Erciwl y sgrin fod yn Mr Universe hefyd.