Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

agoriad

agoriad

Roedd hi'n amlwg bod ei pherchennog wedi bod trwy'r agoriad lawer gwaith o'r blaen.

Ac i lenwi'r ceudod, beth am arddangos anrheg Modryb Matilda, sef 'sgathriad wedi'i fframio i ddathlu agoriad swyddogol Twnnel Conwy.

Y rhan gyntaf yw'r AGORIAD, yr ail yw'r GEM GANOL a'r trydydd y TERFYNIAD.

Maen agoriad gwych i'r sengl.

Mae cannoedd os nad miloedd o lyfrau wedi eu hysgrifennu ar y rhan gyntaf - sef yr AGORIAD.

Does dim agoriad arall i'r gorffennol hwnnw ond yr iaith.

Ac yna roedd y cwch cyflym wedi troi ac yn anelu fel mellten am yr agoriad cul i'r mor mawr.

Dathlodd Dafydd Du agoriad hanesyddol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar yr awyr gyda Carnifal y Cynulliad yn fyw o dir Castell Caerdydd.

Fe roisai Sylvia agoriad iddi i arllwys ei gofidiau.

'Y mae'n addas,' meddai, 'fod Beca'n arddangos yng Nghlwyd unwaith eto, oherwydd arwyddocâd y gair Clwyd - y mae ein gwaith ni hefyd yn agoriad.

Y mae ugeiniau o lyfrau wedi eu sgrifennu ar yr agoriad hwn yn unig.

Prif feysydd gweithgaredd BBC Adnoddau, Cymru yn ystod y flwyddyn oedd etholiadaur Cynulliad Cenedlaethol, cyflwyno cyfleusterau darlledu yn Nhy Crughywel, agoriad Swyddogol y Cynulliad Cenedlaethol a dathliadaur mileniwm.

Cyfnod penllanw'r pregethu teithiol hwn oedd y blynyddoedd o ddiwedd rhyfeloedd Napoleon hyd agoriad y rheilffyrdd ym mhedwardegau'r ganrif.

Cafodd gwylwyr ledled Prydain gipolwg ar y dathliadau gwych a nododd agoriad y Cynulliad Cenedlaethol gyda The Welsh Assembly - a Nation Celebrates ar BBC Dau, a Starry Starry Night, sef uchafbwyntiaur cyngerdd ym Mae Caerdydd.

Gobeithio felly eich bod wedi cael agoriad llygad o ran yr hyn y mae'r llyfrgell a'i staff yn ei gyflawni.

Os bydd eich gwrthwynebydd yn dwyn un o'ch darnau yn yr agoriad fel sy'n digwydd yn aml) - yna rhaid i chi ofalu eich bod yn dwyn darn o'r un gwerth yn ôl o'i fyddin yntau.

Mae gweithwyr wedi bod wrthi hyd y munudau olaf i sicrhau bod popeth yn ei le ar gyfer yr agoriad swyddogol.

Agoriad llygaid hefyd oedd gweld cyn lleied mae safle merched wedi newid yng nghefn gwlad China.

Yn dilyn agoriad mor arbennig fe geir tair o ganeuon Saesneg, ac mae'n rhaid cyfaddef fod rhain yn dueddol o atgoffa rhywun fwy o'r hen Gwacamoli.

Yn anffodus nid oedd y mêt wedi gofalu bod y gwenith oedd yn llwyth y llong y fordaith gynt wedi cael ei lanhau o gwmpas agoriad i'r pwmp, a phan geisiwyd pwmpio'r dwr allan nid oedd yn gweithio fel bod y llong yn llenwi â dwr.

Bydd yr agoriad yn cael ei ddathlu gyda chyngerdd mawr a deledir gan S4C o Fae Caerdydd, gyda Tom Jones, Shirley Bassey, Charlotte Church a Bryn Terfel yn cymryd rhan.

Mae cael y cyfieithiad yn agoriad llygad - nid i ddeall y cerddi, ond i weld cerdd o safbwynt rhywun arall.

Ond gan y byddwn yn trin yr agoriad yma - sef y 'Ruy Lopez' - yn fwy trylwyr yn nes ymlaen gwell ei gadael hi yn fanna am y tro.

Ivor Thomas, Maer Llanrwst, Cynghorydd John Thomas, Mr Yould, Swyddog Iechyd Cyngor Aberconwy, cynrychiolydd o Gwmni Bob Parry ac Emlyn Davies yn cynrychioli'r NFU Darparwyd lluniaeth yng Ngwesty'r Queens yn dilyn yr agoriad swyddogol.

Agoriad yw'r gannwyll mewn gwirionedd, gan fod y tu mewn i'r llygad yn dywyll.

Yn sicr yn agoriad grymus i'r albym ond biti nad yw'r gân yn cychwyn yn bendant.

Yna arafodd yn sydyn wrth yr agoriad - ond nid yn ormodol - a diflannod fel seren wib rhwng y creigiau duon.

PENTREF bychan ar ochr ogleddol Llyn yw Llanaelhaearn ac ef sy'n gwarchod yr agoriad t'r penrhyn.

Rhaid i chi beidio ag aberthu yr un darn - hyd yn oed un gwerinwr bach - yn yr agoriad heb fod gennych sicrwydd y byddai 'aberth' felly yn rhoi mantais glir i chi.

Mae'n werth sylwi eto yn awr pa rai o'r 'darnau mawr' sy'n cael eu 'datblygu' gyntaf yn yr agoriad.

Ar ôl i Beti symud i Gwmderi, daeth Haydn yn dipyn o ffrindiau gyda hi a chafodd Beti agoriad llygad pan ddarganfu fod Haydn a Kath yn hen gariadon.

Yn awr, pan fydd chwaraewyr gwyddbwyll yn siarad am gemau, ac un yn gofyn i'r llall, "Pa agoriad ddefnyddiest ti?" Ac os bydd yr uchod wedi ei ddefnyddio, yr ateb fydd, "Y Ruy Lopez".

Yr AGORIAD gorau yw'r un sy'n eich galluogi i "ddatblygu% eich darnau yn y ffordd fwyaf effeithiol yn yr amser byrraf posibl.

Hon oedd un o'r siafftiau mwyaf llewyrchus ar droad y ganrif ac roedd agoriad iddi o'r tir hefyd yn rhywle yn y caeau dan Henllys Hall.

Paid â Siarad Efo Fi ydyr gân gynta sydd i'w chlywed ar y Cd , syn gopi hyrwyddo, ac maen agoriad gwych ac addawol iawn i'w gyrfa gerddorol.

Daeth y nifer mwyaf erioed o sêr o Gymru ynghyd ym Mae Caerdydd ar gyfer Lleisiau Cenedl, cyngerdd mawreddog yn rhad ac am ddim a gynhaliwyd i ddathlu agoriad brenhinol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae'r nifer hwn mewn cyfrannedd a sgwar agoriad y llygad.

Adeiladwyd hwn ar dir a gafwyd gan Owen Roberts, Ty'n Pant, a phregethwyd ar ei agoriad gan y Parchedigion Thomas Charles a Ffowc Evans.

Gwelsoch sut y mae symudiadau gwan yn yr 'Agoriad' yn arwain i ddiwedd sydyn ar y gêm.

waith yn yr hanner dwsin cyntaf o symudiadau'r Agoriad - y tebygrwydd yw eich bod wedi cymryd cam gwag.

Mesurai tua un metr o hyd ac roedd agoriad tua chwarter metr sgwâr yn un pen iddo.

Yn yr un modd mae'r prif drac yn achosi penbleth yn ogystal, gan fod Deud Dim yn agoriad annisgwyl i'r albym.

Roedd yn bleser gan BBC Choice Wales ddarlledu cyngerdd y ganrif - digwyddiad gala gwych yn nodi agoriad hanesyddol Cynulliad Cenedlaethol Cymru gyda'r fath hunanfeddiant.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, dechreuodd BBC Radio Wales baratoi ei hamserlenni ar gyfer her y flwyddyn i ddod: etholiadau cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol newydd, agoriad y sefydliad newydd, Cwpan Rygbi'r Byd ac ar ddiwedd y flwyddyn, dathliad y Mileniwm.

Y digwyddiad arall oedd agoriad ffurfiol Llyn Celyn pan ddaeth mawrion Lerpwl ynghyd i gynnal y seremoni mewn pafiliwn lliwgar, agored, wrth odre'r argae.

Mi fu'r rhieni'n protestio yn agoriad swyddogol yr estyniad gan ddweud mai gwastraff arian oedd adeiladu'r estyniad os na fydd yna athrawes i lenwi'r dosbarth.

Dechreua'r trac agoriadol gyda swn dwr yn llifo ac mae'n agoriad effeithiol i'r gân Dysgu Nofio - un o uchafbwyntiau Clockwork.

Dyma'r agoriad: Ni all terfysgoedd daear fyth gyffroi Distawrwydd nef...

Byddai'r gân yn fwy effeithiol efo agoriad mwy pwerus.

Bydd yn rhyfedd iawn os na chewch rywbeth yn yr agoriad: hiraeth melys rhyw salm; callineb bydol bachog rhyw ddihareb; ysblander gweledigaeth proffwyd neu ddifinydd; stori brydferth swynol neu bryd arall stori erwin frawychus; brathiad cleddyf neu foesegwr di- dderbyn-wyneb a yrr eich hunangyfianwder ar ffo; murmuron tawel a leinw eich enaid a hedd.

Roedd y sgwrsio'n agoriad llygad.