Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

agorodd

agorodd

'Ia?' Agorodd ei ddau lygad y tro hwn.

Agorodd Mary'r drws iddo ymhen hir a hwyr gan wneud esgus ei bod wedi pendwmpian ar y soffa a'i bod yn rhaid bod y glicied wedi dod i lawr ar ddamwain.

Agorodd y ffenest a phwyso ar y rhan isaf i lenwi ei hysgyfaint ag awyr iach a dotio ar lesni tyner yr awyr.

Arweiniodd y llwybr ni ymlaen at ochr y tŷ gwydr ac agorodd y bwtler ddrws i mi a safodd o'r neilltu.

Cerddodd y tri ohonynt yn ôl at y car ac agorodd Carol y drws cefn i'r bechgyn gael dringo i mewn.

Yn sydyn, megis mewn ateb i'm myfyrdodau, agorodd y drws a chlywn ei lais yn galw: "Hylo 'ma!

Tra oedd yn cerdded fel hyn, ei meddwl yn bell oddi wrth y bobl o'i hamgylch, agorodd merch ffenestr llofft tŷ cyfagos a galw allan, "Pamela, be wnei di yma?" Trodd Pamela i weld pwy oedd yno ac meddai'r ferch wrthi drachefn, "Rown i'n meddwl amdanat ti ychydig eiliadau cyn iti ddod i'r stryd.

Agorodd Jabas yr injan a dweud wrth Gwil am lywio am y lanfa.

Agorodd y drws a dyma Derek yn fy ngalw i fewn.

Fel y syllai Dan arno, cododd ei ben oddi ar ei ysgwydd ac agorodd un llygad gwyliadwrus.

"Y John Preis na, dyna'r cena agorodd y giât." Ond cafodd Edward ras rhyfedd i ddal rhag ei ysgwyd yn reit dda.

Fe'm dilynodd i mewn, caeodd y drws allanol, agorodd ddrws ar y tu mewn ac aethom trwy hwnnw.

Yn sydyn gwaeddodd Padarn: 'Llynced y ddaear ef!' ac agorodd y ddaear a llyncu Arthur hyd at ei ên.

Agorodd Malcym y tap.

Heb guro, agorodd Abdwl ddrws cefn y tŷ a cherddodd i mewn i'r gegin.

Agorodd Cadi glwyd yr ardd, ac yna safodd: yn eistedd ar riniog y drws yr oedd - Smwt.

Agorodd y gyriedydd y cawell fel y gwnaethai lawer gwaith o'r blaen mae'n siwr, plygodd Mrs Trench a dechreuodd rannu'r hosanau llawnion gwerth eu cael.

Agorodd y drws yn araf, a cheisiodd gadw ei lais yn naturiol wrth alw "Meg!" Ond doedd dim ateb.

Agorodd y drws yn araf rhag iddo wneud sŵn gwichian ac ymadawodd, gan adael chwa o wynt iasol i mewn ar yr un pryd.

..!" Yn olaf, cyn troi unwaith ac am byth at y drws, agorodd Morfudd y ddau fotwm uchaf ar ei choban wen er mwyn dangos rhyw fymryn pryfoclyd ar gnawd ei mynwes.

Agorodd y tap.

Agorodd ei llygaid a gofyn: '?Glwais i rywun yn sôn am ganeri?'

Agorodd y bag i ddatgelu cyflenwad llawn o fatris!

Wrth iddi gyrraedd y ddesg, a oedd gerllaw'r drws, agorodd y drysau a daeth corff mawr, blêr ond hapus i'r golwg.

Eisteddodd wrth y bwrdd ac agorodd y llyfr.

Agorodd Ap Menai ei lygaid eto.

Pan agorodd ei lygaid, cofiodd am Stan.

Ar lawr un, agorodd mam ddagreuol flanced a orchuddiai gorff ei baban dri mis oed a fu farw rai oriau ynghynt am nad oedd llaeth ar gael iddo.

Agorodd y plismon tew y drws iddi a bu'n rhaid iddi gerdded yn droednoeth i dŷ bach budr a oedd yn sglefr o olch.

Arhosodd y car yn ymyl y ddau ac agorodd Gareth y drws.y tro cyntaf.

Agorodd fflagon o gwrw a mwynhaodd weld cynfaswr Cymru'n sgorio tri chais gwych.

Agorodd ei llygaid.

Dywedir i'r sawl a agorodd yr arch y tro hwn deimlo'r corff â'i ddwylo yng ngolwg yr ardalwyr, ac 'roedd yn amlwg fod y croen a'r cnawd mor ddilwgr â'r dydd y claddwyd hi.

Agorodd Alun y parsel yn ofalus.

Agorodd ddrws yr ystafell yn araf.

Mi wyddost i mi ei chau i mewn." "Trwy'r ffenest?" "Na, mi gaeais pob ffenest cyn mynd." Agorodd Cadi'r drws, a sefyll yn y cyntedd.

Agorodd y bocs bron yn ddefodol, ac arllwys y ddau ddarn arian i mewn i'w dwrn chwith.

Agorodd y drws ffrynt, safodd ar garreg y drws ac anadlu'r awyr iach.

Pan agorodd ei wraig gymharol newydd ddrws eu cartref ar ei ddychweliad bun rhaid iddo yntau feddwl am esgus sydyn am ei absenoldeb.

(sylwer nad agorodd weithiau Lenin o gwbl).

Ma' rhyddid yn beth mawr, wyddoch chi a rydw i am ddal 'y ngafal ynddo fo." Ar yr un gwynt, ychwanegodd yn ddyn i gyd: "Rydw i am fynd i weld tipyn ar y byd cyn iddi hi fynd yn rhy hwyr arna i." Agorodd ceg Maggie Huws, ond cyn iddi hi gael yr un gair allan ohoni hi, roedd Willie Solomon wedi cyrraedd ei ddrws ac wedi rhoi clep arno yn ei hwyneb.

Yn sydyn symudodd ei drwyn ac agorodd ei lygaid yn araf.

Roeddwn yn dal i rythu ar y llygaid du, poeth pan agorodd ddrws ym mhell yn ôl o dan y grisiau.

Trwy Mrs Burrell y clywais gyntaf am Sadhu Sundar Singh, a John Roberts agorodd y drws i syniadau Gandhi - er ei fod yn ddigon beirniadol ohonynt.

Diflannodd y perthi o dan orchudd o flodau gwyn, agorodd y blodau eu petalau, ac yn y bore bach canai cor yr adar gyda arddeliad.

Agorodd y caead, a chymerodd anadl hir.

Ac yn ystod blynyddoedd yr Ymraniad, mae'n deg dweud fod y rhan fwyaf o'i haelodau yn teimlo oerni'r bwlch a agorodd rhwng Rowland a Harris.

Fe agorodd y drws ac aeth i mewn i'r ty a be welodd ond Rondol yn gorwedd ar ei hyd ar lawr, a heb fod ymhell oddi wrtho roedd Begw yr un modd.Cerddodd fy nhaid i ganol y ty ac edrychodd arnynt yn ddifrifol ac meddai 'Diar mi.

"Doeddwn i ddim wedi bwriadu bod." Agorodd ei llygaid yn fawr.

Agorodd pob un o glwyfau'r hen sgarmes, er eu bod wedi gwella mor llwyr ddeugain mlynedd yn ôl.

Pan laniodd yr awyren mewn cae ar gyrion Mogadishu, a phan agorodd ei safn fecanyddol yn araf er mwyn i'r gwaith o ddadlwytho sachau bwyd a newyddiadurwyr ddechrau cyn y saethu, roedd yr olygfa yn un yr oeddwn innau wedi'i gweld ar sgrin y teledu.

Ar ôl dechrau ar y gwaith agorodd y sach gyntaf o fratiau a sylwodd ar bluen hardd.

Agorodd Douglas do y cocpit yn barod i ddianc a disgyn hefo'i barasiwt.

`Agorwch y parasiwt.' Eiliadau'n ddiweddarach agorodd y ddau barasiwt uwchben y dynion gyda chlec.

Y tro cyntaf ers blynyddoedd i rywun ddweud wrthaf fi eu bod nhw'n fy ngharu ac maen gwneud fy nghyfrifiadur in honco, meddai cyfaill a agorodd ei neges RWYNDYGARUDI ddydd Iau diwethaf.

Agorodd Jonathan ei lygaid ac edrych yn syth i wyneb Mathew.

Ar ôl i mi ganu cloch drws y ffrynt, agorodd ef, edrych i fyw fy llygaid gyda'r llygaid llym llwyd a feddai, a gofyn, 'A welsoch chi'r Western Mail y bore 'ma?

Agorodd y giât a gweiddi ar y buchod.

Hwyrach fod dyn yn well na merch ar adeg fel hyn." Agorodd ddrws y caban led y pen, a safodd i un ochr er mwyn i mi gael mynd i mewn.

Cyrhaeddodd Alun y fferm ac agorodd y drws a rhoddodd y ffon yn ei hôl yn y gornel wrth y dreser, y gornel lle y bu ar hyd y blynyddoedd.

Yn llechwraidd ofalus, agorodd gornel.

Agorodd Kirkley y ffeiliau ar ei gôl.

Agorodd ei llygaid ond ni symudodd.

Agorodd y drws yn ofalus a dechrau chwilio'n ddistaw, ddistaw am yr hyn a geisiai.

Yn ei swyddfa agorodd Rhian botelaid o siampên, a gadwyd mewn rhew ers tro.

Yna, agorodd Tom Jones y lle yn swyddogol trwy dorri potel o bop - Dandelion & Burdock - yn erbyn wal yr hen ffatri bop sy'n awr yn Ffatri Bop.

"Fe arhosodd ar ol y pnawn 'ma i orffen y darlun." Agorodd y drws a arweiniai i'r cyntedd, a galw drwyddo.

Gan wneud s n crafu mawr agorodd y drws yn sydyn.

Yn sydyn, llithrodd y bollt yn ddidrafferth i'w le, ac agorodd drws y bwthyn led y pen, gan daflu'r hen wraig fel crempog yn erbyn y wal a rhoi clec iddi ar ei thrwyn.

Ar sedd y gyrrwr fodd bynnag roedd amlen ac agorodd y gūr ef.

Rhwygwyd yr awyr gan fellten, cododd y gwynt ac agorodd yr awyr gan ollwng galwyni o ddŵr.

"Wnawn ni ddim diffodd y golau," meddai wrth y cŵn, "rhag ofn i ni faglu'n y tywyllwch ar y grisiau tu allan." Cofiodd am ei dors, ac agorodd y drws i'r cŵn neidio o'i flaen i lawr grisiau'r feranda.

Cyfododd rhu y chwyrnwr yn uwch, ac agorodd Dan y drws, yn ddistaw bach.

Agorodd Mrs Eurwen Parry ei chartref i gynnal noson goffi, ac ar noson arbennig o braf ddiwedd Mehefin daeth tyrfa i Gae Bold i fwynhau loetran uwchben paned a sgwrs yn yr ardd.

Yr oedd llythyr ganddo oddi wrthi, ac agorodd Idris hwn cyn symud o'r cei.

Agorodd rhagor o ddrysau gerllaw ac ymunodd teuluoedd eraill gyda nhw i gerdded yn rhibidrês ddistaw tua phrysurdeb y coridor mawr.

Agorodd y drws a gweld safnau gwaedlyd y ddau gi.