Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

agosa

agosa

Wrth agosa/ u at y llyn, gwelsom bedair lleian yn cydganu.

Rwyt ar dy draed mewn amrantiad ac yn agosa/ u atynt yn dawel.

Cafodd y ddau dîm gyfleon cyn y chwiban olaf, yr agosa oedd cynnig Richard Kennedy o'r Barri yn taro'r trawst.

Wrth i'r Nadolig agosa/ u byddem yn hwylio i berfformio Drama Nadolig.

Dro arall mae tarw'n penderfynu dianc a'r gynulleidfa yn gofod codi a rhedeg i lechu y tu ôl i'r cerbyd agosa nes bo'r gwarchodwyr yn cael gafael ar y rhaff sydd am wddf yr anifail ac weithiau gael eu llusgo cyn cael rheolaeth arno.

Fe guron nhw Port Talbot ddoe, tra roedd eu gwrthwynebwyr agosa Cwmbran yn colli yn erbyn Caerfyrddin.

Mwy o duchan, 'roedd hanner awr wedi wyth yn agosa/ u, a nhad yn siarad rhwng ei ddannedd, wrth fethu'n glir â chael hyd i'r crys.

Er syndod iddo, doedd y car arall ddim yn cilio o gwbl; os rywbeth roedd yn agosa/ u.

Pa mor bell ydy'r dref neu'r pentref agosa' tybed?

Wrth agosa/ u at y pentref gelli glywed sŵn prysurdeb pobl wrth eu gwaith bob dydd.

Yn honno, yr agosa' y mae'r rhan fwya' o newyddiadurwyr yn mynd at beryg' personol yw yfed gormod o gin ac mae dyfais a dychymyg lawn mor bwysig â ffeithiau, wrth iddyn nhw ei jolihoetian hi'n garismatig o le i le.

Pan welwn nhw felly'n ymfyddino, a Thalfan yn agosa/ u fel rhyw Urien Rheged i'm cyfarch a'm herio â chawod o regfeydd, hiraethwn am ddihangfa, a dychmygu fy hun yn neidio ar un o'r beiciau a phedlo nerth fy nghoesau nes cyrraedd diogelwch tangnefeddus y dref, y traeth neu'r foryd.

Ac y mae yr adwaith o hyd yn newid, y berthynas rhwng un uned a'r llall yn cael ei lleihau neu agosa/ u, ac mae'r finiau rhwng unedau yn aml yn aneglur ac yn symudol.

Tynni dy gleddyf ac wrth agosa/ u atynt gweli arwydd y Goron Dân ar eu clogynau.

Dyma'r nod, dyna'r ddelfryd - dod i 'nabod yr Iesu, agosa/ u ato a thryw hynny ddod yn un ynddo Ef.

Ffaldi-rai-tai-to, mae'r Blw-byrd (dur) ar ben ei ddigon hefo Cymru fach - fel y gwcw lawen lwydlas ar ei nyth newydd, ac yn wir yn Sonnig, ar lannau Tafwys dlawd y trig mewn bwthyn bach distadl, yntau yno wedi agosa/ u cryn filltiroedd at Gymru o fro ei febyd yng Nghaint, wedi symud yno'n fwriadol i ragddisgwyl am y job.

Wrth agosa/ u ar y fordaith gartref am Sianel y Saeson yr oedd llawer o longau hwyliau yn curo yn erbyn gwyntoedd croesion a llawer ohonynt wedi mynd yn brin o fwyd.