O'i chymharu ag Agra, roedd stesion Delhi'n edrych yn lan pan gyrhaeddon ni'n ol heno, a'r YMCA., pan gyrhaeddais hwnnw ar ol taith wallgof trwy draffig ardal yr orsaf mewn rickshaw-peiriannol, yn ddigon croesawgar yr olwg - ymron yn aelwyd gynnes gyfarwydd.
I Agra ymhen tair awr, a chael fy nal gan ddyn tacsi sy'n cynnig gofalu amdanaf trwy'r dydd, am bris rhesymol, rhaid cyfaddef, am fod y bobl sy'n arfer rhedeg bysiau i'r Taj wedi mynd ar streic.
Diwrnod diddorol iawn, poeth iawn, serch hynny, a chyfle i grwydro o gwmpas man strydoedd Agra ddiwedd y prynhawn, a'r tebygrwydd a rhai mannau yn y Caribi yn brigo eto, ond fod mwy o bobl hyd yn oed, llai o lawer o geir, a phob math o drafnidiaeth arall unwaith eto - beics, rickshaws, motor-beics, bysiau, ychydig iawn iawn o geir.
Ar y tren saith y bore yma i Agra, hen brifddinas gogledd India, a chartref y Taj Mahjal.