Os na ellir ailgartrefu menywod, a'r llochesi'n llawn; bydd menywod yn aros yno am fisoedd, ac ni ellir helpu menywod ag arnynt angen y gwasanaeth argyfwng dros-dro y carem allu ei gynnig.
Awdurdodau lleol, yr unig gyrff â dyletswydd ystatudol i ailgartrefu'r digartref, yw ein prif ffynhonnell ailgartref o hyd.