dichon y byddai 'r llif wedi ailgydio ynddi oni bai fod cangen braff a thrwchus o helygen yn tyfu hyd at ganol yr afon, hanner medr uwchben y dŵr ^ r, a brigau deiliog yn disgyn oddi arni i 'r afon yn grafanc am long ffred druan.
Ar ryw ystyr felly y mae ysgolheictod diweddar yn ailgydio (ond gyda llawer mwy o wybodaeth a manyldra hanesyddol) ym mhrif linellau dehongliad cychwynnydd yr ymchwil fodern am yr Iesu hanesyddol, sef Reimarus, gŵr o ddaliadau deistaidd yn y ddeunawfed ganrif a geisiai wrthwynebu'r Gristnogaeth draddodiadol.
Wedi cael cefn Pyrs teimlai Obadeia Gruffudd ei bod hi'n ddyletswydd arno i ailgydio yn y weddi ond fel roedd o'n hwylio i ddisgyn eilwaith ar ei liniau daeth y Parchedig John Jones, person plwy Llaniestyn i mewn, a hanner baglu dros y gist ddillad yr un pryd.
Y mae angen dybryd am ailgydio yng ngwirioneddau sylfaenol yr Efengyl.
Y mae'r olaf yn cyflym adennill ei nerth ac yn medru ailgydio mewn bywyd gyda brwdfrydedd.
Rwyt yn ailgydio yn y trywydd ond yn fwy effro y tro hwn, felly pan glywi dwrw ar y llwybr ychydig y tu ôl i ti rwyt am ffoi.
Os ydyw'n Gymro go iawn ac yn un sy'n ymglywed â naws a thraddodiadau ei wlad a'i genedl ei hun, fe ddaw'r awydd i ddysgu'r hen iaith er mwyn ailgydio yn ei enedigaeth-fraint.