Dangosir yn y diagram dair enghraifft o alaethau, pob un yn cynnwys yr un faint o oleuni.
Mae'r llun nesaf yn dangos grwp o alaethau a elwir yn gasgliad Ffronacs.
Ddechrau'r ganrif hon sylweddolwyd bod y nifylau hyn yn rhy bell i ffwrdd i fod yn ein galaeth ni ac eu bod, mewn gwirionedd, yn alaethau eraill.
Ond, wrth gwrs, wrth inni edrych yn bellach a phellach i'r gofod mae'n mynd yn fwy a mwy anodd gweld y gwahanol alaethau.
Fel y gallwch weld o'r llun, mae nifer o alaethau amlwg iawn yn y casgliad.
Wrth astudio grwpiau o alaethau deuwn i ddeall mwy am sut y mae galaethau wedi ffurfio a sut y maent yn esblygu.
Mae'r grwp Seryddiaeth yn Adran Ffiseg Coleg y Brifysgol yng Nhaerdydd wedi darganfod bod dwsinau o alaethau eraill, llai amlwg, yn y casgliad hwn hefyd.