Mewn ymdrech ar y cyd rhwng staff ymgynghorol AALl Dyfed, Albion Concrete, Pwyllgor Tywysog Cymru, yr ysgolion ac Uned o'r Fyddin Diriogaethol, mae nifer o ysgolion yn Nyfed wedi derbyn pibellau draenio enfawr.
Rhoddwyd y rhain gan Albion Concrete Cyf., a chawsan nhw eu cludo i'r union lecyn gan y fyddin, fel y gallai'r ysgolion gael naill ai fan plannu neu wely wedi ei godi.