Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

alcali

alcali

Mae cemegwyr yn defnyddio papur wedi'i drin yn arbennig o'r enw papur litmws pan fyddant yn profi hylifau anhysbys i weld ai asid neu alcali ydynt.

Mae hydrocsid sodiwm, neu soda costig i roi ei enw arall iddo, yn alcali cyfarwydd ond peryglus iawn.Gall ddinistrio croen dynol a dillad yn gyflym iawn.

Mae calch yn cynnal cytbwysedd asid/alcali yn y pridd fel y gellir amsugno porthiant planhigion, mewn toddiant, trwy flew gwraidd y planhigion.

O'r Arabeg y daw'r gair alcali, a'r ystyr yw lludw.

Mae'n niwtral, sy'n golygu nad yw nac asid nac alcali.