Llyfrgell Home Page Contents

Llyfrgell Owen Phrasebank

alcam

alcam

Ni châi diwydiannau ysgafn a glanach ddatblygu yma rhag ofn y denent ei gweithwyr oddi wrth y diwydiannau glo, dur, haearn, alcam ac ati.

Mae ceir wedi'u gwahardd o'r canol erbyn hyn gan adfer rhywfaint o awyrgylch canol oesol y dre farchnad - cyn teyrnasiad y brenin glo a dyfodiad diwydiannau alcam, olew a dur i waelod Cwm Nedd.

Y Gorfforaeth Ddur yn cyhoeddi y collid 345 o swyddi yng ngweithfeydd alcam Trostre a Glynebwy.

Ymhlith y pynciau a drafodid yn y pamffledi hyn yr oedd dyfodol y diwydiant alcam, Deiseb yr Iaith, trosglwyddo gweithwyr o Gymru i Loegr, status Sir Fynwy, cynllunio trydan, silicosis, Cyngor Undebau Llafur i Gymru ac ad-drefnu wedi'r rhyfel.